Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â dosbarthu llyfr hanes ar gyfer y Jiwbilî Frenhinol yn ddiofyn i bob ysgol yng Nghymru yn “sarhad ar y Frenhines”, yn ôl Andrew RT Davies.
Cafodd y llyfr ei gomisiynu gan Adran Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac mae disgwyl i 211,000 o gopïau dwyieithog fod ar gael i blant mewn tua 3,000 o ysgolion a sefydliadau addysg ar hyd a lled y wlad.
Mae’r gyfrol yn egluro’r Frenhiniaeth gyfansoddiadol, rôl brenin neu frenhines a pham fod yr unigolyn yn bwysig, ei chyfrifoldebau yn bennaeth ar y Gymanwlad, yr hyn yw’r jiwbilî a dyddiadau brenhinoedd eraill yn teyrnasu, yn ogystal â hanes 70 mlynedd y Frenhines bresennol ar yr orsedd.
Fodd bynnag, ar ôl i Weinidogion Llywodraeth Cymru weld y llyfr a gofyn i’r hanesydd Dr Elin Jones am ei barn amdano, daethon nhw i’r casgliad na fyddai’n briodol i’w ddosbarthu i bob disgybl.
Yn hytrach, bydd rhaid i ysgolion yng Nghymru wneud cais i dderbyn copïau o’r gyfrol.
Roedd Dr Elin Jones o’r farn nad oedd y llyfr yn trafod digon am ieithoedd a diwylliannau brodorol Prydain.
Bydd ei llyfr hi, Hanes yn y Tir, yn cael ei ddosbarthu i holl ysgolion Cymru i’w helpu i addysgu’r cwricwlwm cenedlaethol newydd, sy’n cynnwys hanes Cymru.
‘Sarhad’
Dywed Andrew RT Davies fod polisi a rhesymu Llywodraeth Cymru yn “sarhad diangen i’r Frenhines yn ei blwyddyn Jiwbilî”.
“Mae’n drist bod Llafur, wythnosau cyn 70ain Jiwbilî Ei Mawrhydi, wedi gorgymhlethu ffordd syml o rannu stori ei theyrnasiad gyda’n plant,” meddai.
“Ni fydd pobol Cymru yn fodlon gyda’r cyfiawnhad hwn gan eu bod yn falch o hanes tosturiol y Deyrnas Unedig a rôl flaenllaw Ei Mawrhydi yn ein stori genedlaethol.”
‘Diffyg ymwybyddiaeth hanesyddol’
Mewn llythyr at Andrew RT Davies, dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg Cymru, fod Dr Elin Jones wedi rhoi “barn annibynnol ddi-dâl i Lywodraeth Cymru ar gynnwys y llyfr”.
“Y cyngor gan Dr Jones oedd ei bod yn teimlo bod y llyfr yn methu a mynd i’r afael â hanes cynnar Prydain, er mwyn esbonio’r rhesymau dros fodolaeth ieithoedd a diwylliannau brodorol Prydain, roedd hyn yn ddiffyg sylfaenol yn y llyfr hwn,” meddai.
“Gwaethygwyd hyn gan y diffyg cyfeiriad at yr ieithoedd a’r diwylliannau hyn heddiw – heb sôn am eu dathlu.
“Mynegwyd pryderon hefyd ynghylch y dehongliad hen ffasiwn o hanes Lloegr a’r diffyg ymwybyddiaeth hanesyddol.
“Roedd Dr Jones hefyd yn teimlo nad oedd y llyfr yn cefnogi polisi iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru ac yn tanseilio’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i ddatblygu ymagwedd gynhwysol at ddiwylliant yng Nghymru.”