Mae’r Ceidwadwyr wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Llywodraeth Cymru na fydd llyfrau dwyieithog i ddathlu’r Jiwbilî Platinwm yn cael eu hanfon yn ddiofyn i holl ysgolion y wlad.
Yn hytrach, bydd rhaid i ysgolion wneud cais i dderbyn copïau o’r gyfrol yn dathlu teyrnasiad Brenhines Elizabeth II a gafodd ei chomisiynu gan Adran Addysg San Steffan.
Mae disgwyl i 211,000 o gopïau dwyieithog fod ar gael i blant mewn ychydig yn llai na 3,000 o ysgolion a sefydliadau addysg ar hyd a lled y wlad.
Mae’r gyfrol yn egluro’r Frenhiniaeth gyfansoddiadol, rôl brenin neu frenhines a pham fod yr unigolyn yn bwysig, ei chyfrifoldebau yn bennaeth ar y Gymanwlad, yr hyn yw’r jiwbilî a dyddiadau brenhinoedd eraill yn teyrnasu, yn ogystal â hanes ei 70 mlynedd ar yr orsedd.
Gwrthwynebiad ac ymateb
“Llyfr dwyieithog, addysgiadol yw hwn am Bennaeth ein Gwladwriaeth sy’n gydwybodol ac wedi gwasanaethu am yn hir,” meddai Laura Anne Jones, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn biwis wrth wrthod ei ddosbarthu’n unswydd.
“Nod y llyfr hwn yw dysgu’r genhedlaeth nesaf am sut mae ein gwlad yn cael ei rhedeg a’i hanes.
“Yr unig reswm na fyddai Llafur am i blant eu cael nhw yw oherwydd eu bod nhw’n credu nad yw o les iddyn nhw ymfalchïo mewn sefydliadau Prydeinig a gorffennol y Deyrnas Unedig.
“Wrth gwrs, fe allai fod oherwydd bod Mark Drakeford yn weriniaethwr y byddai’n well ganddo beidio â chael Y Frenhines o gwbl.
“Naill ffordd neu’r llall, Llafur sydd angen mynd yn ôl i’r ysgol a dysgu sut i lywodraethu.”
Llu o sêr Cymraeg a Chymreig yn perfformio ar gyfer y jiwbilî yng nghastell Caerdydd
Cyhuddo Sinn Fein o “amharchu” Jiwbilî Brenhines Loegr
Datgelu’r cynlluniau llawn ar gyfer Jiwbilî Brenhines Lloegr