Bydd Llywodraeth Cymru’n helpu i lywio deddf newydd i sicrhau bod pobol sy’n byw ac yn gweithio ger tomenni glo yn teimlo’n ddiogel.
Maen nhw wedi croesawu argymhellion Comisiwn y Gyfraith, a oedd wedi tynnu sylw at fylchau sylweddol yn y ddeddfwriaeth bresennol, i wella diogelwch y tomenni.
Roedd y bylchau’n yn ymwneud â rheoli, monitro, a goruchwylio tomenni segur, a chyflwynodd y Comisiwn 36 o argymhellion, gan gynnwys creu awdurdod goruchwylio newydd.
‘Annheg ac anghynaladwy’
Dywed Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru, mai “diogelwch ein cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hyd yw ein blaenoriaeth erioed”.
“Rydym wedi darparu’r cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i atgyweirio a chynnal a chadw tomenni glo,” meddai.
“Ac rydym wedi neilltuo £44.4m arall dros y tair blynedd nesaf er mwyn i’r gwaith hanfodol hwn allu parhau.”
O ystyried yr heriau hirdymor y mae newid hinsawdd yn eu peri i domenni glo, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd eu galwadau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cymorth ariannol ar gyfer rhaglen adfer a chyweirio.
“Nid yw setliad ariannu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu’r costau anghymesur o fynd i’r afael â gwaddol glofaol y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd Lee Waters.
“Mae’n gwbl annheg ac, yn blwmp ac yn blaen, yn anghynaladwy i San Steffan barhau i ddadlau y dylai cymunedau Cymru ysgwyddo’r costau hyn.”
Papur Gwyn
Bydd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn cyhoeddi Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru) ddechrau mis Mai fel rhan o’r broses.
Dywed y Dirprwy Weinidog y bydd hyn yn gyfle i gasglu safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynlluniau hyn, a fydd yn darparu “dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni”.
Mae bron i 2,500 o domenni glo segur ledled Cymru, a 327 ohonyn nhw yn rhai risg uchel, ac mae mwy yn dal i gael eu nodi.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu’r Awdurdod Glo i gynnal archwiliadau ar y cyd ag awdurdodau lleol.
Ynghyd â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â’r sector ymchwil drwy i gasglu’r dystiolaeth orau bosibl ynghylch sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar sefydlogrwydd hirdymor tomenni.