Mae gwaith wedi dechrau ar osod paneli solar er mwyn cynhyrchu trydan i Brifysgol Aberystwyth.
Bydd y buddsoddiad o £2.9m yn darparu hyd at 25% o anghenion trydan blynyddol Campws Penglais, ac yn lleihau allyriadau carbon y Brifysgol ychydig dros 500 tunnell bob blwyddyn.
Bydd yr arae solar newydd ar ddarn o dir 3.8 hectar sy’n eiddo i’r brifysgol ar Fferm Penglais, a bydd yn cynnwys dros 4,500 o baneli solar.
Mae disgwyl i’r paneli solar fod yn weithredol erbyn diwedd mis Gorffennaf eleni, gan gyfrannu at gyflawni amcan y brifysgol o fod yn ystâd ddi-garbon erbyn 2030/31.
Dylai’r prosiect arwain at ostyngiad o 8% yn yr allyriadau blynyddol sy’n gysylltiedig ag ynni dros y Brifysgol, a chreu arbedion o dros £325,000 y flwyddyn.
‘Llawer i’w wneud’
Dywed yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, eu bod nhw wrth eu boddau bod y gwaith adeiladu wedi dechrau ar y prosiect “sy’n adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil a lleihau ein hallyriadau tŷ gwydr, yn dechrau”.
“Ein huchelgais yw ystâd Brifysgol a fydd yn niwtral o ran carbon erbyn 2030/1 ac mae’r datblygiad solar hwn yn gam pwysig tuag at wireddu hynny,” meddai.
“Fodd bynnag, mae llawer i’w wneud o hyd wrth inni fynd i’r afael â rhai o’r heriau sylfaenol y mae cymdeithas yn eu hwynebu a gweithio i ddatgarboneiddio ein heconomi er lles y blaned.”
Bydd yr arae solar yn cynhyrchu ynni am 25 mlynedd, ac mae disgwyl iddo fod yn garbon niwtral o fewn ychydig flynyddoedd cyntaf ei oes.
Fe fydd y gwaith adeiladu ar y safle’n cynnwys elfennau i annog bioamrywiaeth yn y gwrychoedd cyfagos, meddai Prifysgol Aberystwyth.
Unwaith y bydd y paneli’n weithredol, bydd defaid yn parhau i bori rhyngddyn nhw.
‘Enghraifft wych’
Dywed Brian Drysdale, Rheolwr Datblygu Ynni Llywodraeth Cymru, fod y gwaith o werthuso potensial ynni adnewyddadwy’r brifysgol wedi dechrau yn 2018.
“Fe wnaethom helpu i nodi safle priodol drwy wneud y gwaith modelu dichonoldeb cychwynnol, a chynghori ar ddatblygu achos busnes i sicrhau’r buddsoddiad angenrheidiol,” meddai.
“Mae hon yn enghraifft arall wych o’r sector addysg uwch yng Nghymru yn arwain y ffordd tuag at sero net ac mae gweld y prosiect hwn yn dod yn fyw yn ein cyffroi.”