Gallai cynigion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i geisio cwtogi ar brotestiadau swnllyd stopio “pethau anodd” rhag cael eu dweud yn gyhoeddus, meddai Aelodau Seneddol.
Byddai’r Bil Heddlu, Trosedd, Dedfrydau a’r Llysoedd yn rhoi mwy o bwerau i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr weithredu yn erbyn protestwyr di-drais a “feirniadir i fod yn rhy swnllyd”, ac felly’n achosi “aflonyddu neu ofn” i’r cyhoedd.
Roedd Tŷ’r Arglwyddi wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar rai cymalau dadleuol yn y ddeddf, ond fe wnaeth gweinidogion ymateb drwy gynnig diwygiad i’r ddeddf yn eu hailgyflwyno.
Fe wnaeth Aelodau Seneddol gefnogi diwygiadau’r Llywodraeth o 276 pleidlais i 202 yn y Senedd neithiwr (nos Lun, Mawrth 28).
Mae’r Bil yn cynnwys ystod eang o fesurau sy’n ceisio trawsnewid y system gyfiawnder troseddol, ac ar hyn o bryd mae’r Bil yn mynd yn ôl ac ymlaen rhwng Tŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi nes y byddan nhw’n dod i gytundeb.
‘Ymosodiad draconaidd’
Ar ôl y bleidlais neithiwr, disgrifiodd Beth Winter, Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Cynon, y Bil fel “ymosodiad draconaidd yn erbyn ein hawl democrataidd i brotestio”.
“Heno, fe wnes i bleidleisio yn erbyn ymosodiad draconaidd y Llywodraeth yn erbyn ein hawl democrataidd i brotestio eto, wrth i ni drafod y Bil Heddlua,” meddai.
“A byddaf yn protestio eto ddydd Sadwrn – yng Nghaerdydd – yn erbyn argyfwng costau byw’r Ceidwadwyr.”
‘An-Nhorïaidd’
Wrth amddiffyn y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd gweinidog y Swyddfa Gartref Kit Malthouse nad yw’r mesurau yn “ystyried cynnwys y sŵn, ond yn syml, yr effaith mae’r sŵn yn ei gael o safbwynt desibel a gofid”.
Dywedodd Ian Paisley, Aelod Seneddol y DUP, fod y Bil yn “an-Nhorïaidd”.
“Siawns ein bod ni’n byw mewn cymdeithas sy’n caniatáu i bethau anodd gael eu dweud ac yn anffodus mae’r ddeddfwriaeth hon yn dilyn y trywydd hwnnw, mae hi’n an-Nhorïaidd iawn a bydd pethau anodd ddim yn cael eu dweud na chael eu dweud yn uchel, yn falch, ac yn eglur, ac mae’n ymddangos mai dyna le mae hyn yn mynd â ni.”
Gwadodd Kit Malthouse mai dyna yw’r bwriad.
“Bydd pethau anodd dal yn cael eu dweud, a dylen nhw barhau i gael eu dweud, yn uchel, yn falch, ac yn eglur ond efallai y bydd hynny mewn sefyllfaoedd penodol – er enghraifft, rydyn ni wedi dweud yn y Bil na ddylai’r pethau hynny gael eu dweud yn uchel, yn falch, ac yn eglur tu allan i ysgol yn gyson, o reidrwydd… neu ganolfan frechu,” meddai.
“Nawr, pam y dylai’r ardaloedd hynny gael eu blaenoriaethu dros eraill? Mae hyn yn ymwneud â’r gofid a’r bygythiad sy’n cael ei achosi gan y sŵn, yr amharu ar hawliau pobol eraill, nid y cynnwys, o reidrwydd.
“Wrth wynebu protest hir, er enghraifft, mewn ardal fasnachol neu breswyl lle mae lefelau’r sŵn mor uchel ei fod yn gyfystyr ag aflonyddu neu fygythiadau, neu’n achosi trallod neu ofn, mae hi’n gwbl resymol bod yr heddlu’n gallu gosod amodau, efallai drwy wahardd y defnydd o offer chwyddo sŵn neu ddrymiau rhwng 10yh a 7yb.
“Os ddim, rydyn ni’n canfod ein hunan mewn sefyllfa hurt lle na all yr heddlu orfodi’r [mesurau], ond mae awdurdodau lleol yn gallu.”
Roedd y Bil yn arfer cynnwys geiriad yn nodi bod rhaid i’r sŵn achosi “aflonyddu difrifol”, ond mae’r geiriad hwnnw wedi cael ei dynnu o’r ddeddf ac ni chafodd ei gynnwys yn y diwygiad.
Anghyfreithlon canu anthemau?
Honnodd aelodau o’r Blaid Lafur y byddai’r diwygiadau yn gwneud hi’n anghyfreithlon i bobol ganu anthem Wcráin.
“Fe welsom ni ddegau ar filoedd o bobol ar strydoedd Llundain yr wythnos hon yn cefnogi Wcráin,” meddai Sarah Jones, gweinidog cysgodol y Swyddfa Gartref.
“Ond rydyn ni yma’n trafod diwygiadau a allai griminaleiddio canu anthem genedlaethol Wcráin.
“Dan ddarpariaeth y Bil, gallai protestwyr gael eu criminaleiddio.”
Anghytunodd Kit Malthouse â’i sylwadau.