Bydd nifer o grwpiau ymgyrchu lleol yn dod ynghyd ym Mangor dros y penwythnos i brotestio yn erbyn y Bil Heddlu, Trosedd, Dyfarnu a Llysoedd newydd.

Er mwyn mynegi eu pryderon am effaith y Bil ar ryddid a democratiaeth, bydd Cymdeithas y Cymod, cangen Gwrthryfel Difodiant Bangor, a Divest Gwynedd yn cynnal protest heddychlon ger cloc y dref, Bangor ddydd Sadwrn (8 Ionawr).

Mae Bil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a’r Llysoedd, sy’n mynd drwy Senedd San Steffan ar hyn o bryd, yn cynnwys cynlluniau i roi mwy o bwerau i’r heddlu ymateb i brotestiadau heddychlon.

Mae pryderon eisoes wedi cael eu codi y gallai’r cyfreithiau newydd fygwth rhyddid, gwaethygu anghydraddoldebau, a thanseilio hawliau sifil.

“Llithro tuag at unbennaeth”

Yn ôl grŵp Gwrthryfel Difodiant, bydd y Bil yn “criminaleiddio’r hawl i brotestio’n heddychlon”, a bydd yn “cynyddu hiliaeth a gwahaniaethu systemig”.

Mae’r Bil yn cynnwys rhoi grym i’r heddlu arestio unrhyw un y maen nhw’n amau a allai fod yn cario arfau ar gyfer protest, a rhoi mwy o bwerau iddyn nhw stopio ac archwilio pobol.

Pe bai’r Bil hwn wedi cael ei gyflwyno gan mlynedd yn ôl, “ni fyddai gennym ni bleidlais i fenywod, hawliau sifil, neu gyfreithiau yn erbyn llafur plant heddiw,” meddai Alison Shaw, ymgyrchydd gyda Gwrthryfel Difodiant, a chyn-athrawes gwyddoniaeth o Gonwy.

“Mae rhywbeth mor sylfaenol â phenwythnosau wedi cael eu hennill drwy brotest, hyd yn oed!” meddai Alison Shaw.

“Mae protest heddychlon yn rhan o gymdeithas ddemocrataidd iach.

“Os nad ydyn ni’n gallu protestio’n heddychlon, sut arall allwn ni sefyll dros y newidiadau rydyn ni eu hangen mewn cymdeithas?

“Mae llywodraeth sy’n gwrthod cael ei chwestiynu na’i beirniadu gan ei dinasyddion yn llithro tuag at fod yn unbennaeth.”

“Tanseilio’r broses ddemocrataidd”

Ychwanegodd Helen McGreary, athrawes ddawns o Borthaethwy, fod y Bil wedi cael ei wthio’n sydyn drwy San Steffan “gan osgoi craffu’n iawn a thanseilio’r broses ddemocrataidd yn llwyr”.

“Mae camymddwyn y llywodraeth yn y ffordd maen nhw wedi ceisio osgoi’r broses ddeddfwriaethol i’w gyflwyno yn ymosodiad uniongyrchol ar gymdeithas sifil y Deyrnas Unedig, ac yn ymdrech arall gan y llywodraeth i wneud ei hun yn anghyffyrddadwy ac anatebol.”

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 1:30 brynhawn Sadwrn (8 Rhagfyr) ger cloc Bangor, gyda gorymdaith lawr y stryd fawr, heibio’r gadeirlan, gan orffen ger swyddfa’r heddlu, lle bydd siaradwyr.

Fe fydd cynnal pellter cymdeithasol yn ofynnol, ac mae’r trefnwyr yn gofyn i bobol wisgo mygydau, ac yn awgrymu y dylid gwneud prawf llif unffordd o flaen llaw.

Protestio yn hawl “hollol sylfaenol mewn democratiaeth,” yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith

Aelodau o’r heddlu a chyfreithwyr wedi rhybuddio fod y Bil newydd yn “fygythiad i ddemocratiaeth”

Bil Heddlu, Trosedd, Dyfarnu a Llysoedd yn dangos un o “wendidau sylfaenol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig”

Cadi Dafydd

“Mae un person wedi awgrymu, efallai ein bod ni’n newid yr hawl i brotestio, i fod yn hawl i sibrwd mewn cornel”