Bydd system amddiffyn arfordirol gwerth miliynau o bunnoedd yn amddiffyn Hen Golwyn a Bae Colwyn yn well rhag stormydd os bydd cynlluniau’n mynd yn eu blaenau.
Mae Cyngor Sir Conwy wedi gofyn am ganiatâd llawn eu pwyllgor cynllunio i adeiladu’r amddiffynfeydd arfordirol rhwng Porth Eirias yn y gorllewin a Splash Point yn y dwyrain.
Bydd yr amddiffynfeydd arfordirol yn cynnwys ail-fetio creigiau (wal fôr) 32m o led a 630m o hyd rhwng gwaelod y promenâd dwyreiniol i Borth Eirias.
Bydd y cynlluniau hefyd yn cynnwys gwell mynediad i gerddwyr a beicwyr i’r traeth, gan gynnwys rampiau a grisiau, man picnic, ac ystafell ddosbarth awyr agored.
Bydd y promenâd hefyd yn cael ei godi tua dwy fedr, ac yn cael ei ledu, i ddiogelu’r arfordir yn well a chynnig mwy o le.
Llywodraeth Cymru fydd yn ariannu’r gwaith yn bennaf, a dyma fydd ail gam y cynllun diogelu’r arfordir.
Mae cam cyntaf y gwaith eisoes ar y gweill, ac yn cynnwys gosod creigiau mawr ar y traeth i amddiffyn rhag tonnau.
Roedd y Cynghorydd Cheryl Carlisle o’r farn y bydd y cynlluniau – os byddan nhw’n bwrw ymlaen – yn amddiffyn trigolion rhag problemau fydd yn cael eu hachosi gan stormydd yn y dyfodol.
“Rydym wedi cyflwyno’r achos yn gyson dros y blynyddoedd bod y diffyg buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, Network Rail, a’r Asiantaeth Cefnffyrdd wedi rhoi’r rhan hon o’r prom a’r holl seilwaith mewn perygl mawr iawn.
“Y prif beth yw’r rhyddhad llwyr i bobol Hen Golwyn a phobol Conwy bod hyn yn digwydd, o’r diwedd, ar ôl yr holl bwysau yma. Mae wedi bod yn waith enfawr gwneud i Lywodraeth Cymru wrando ar ein hofnau.
“Y prif beth fan hyn yw diogelwch Hen Golwyn, y rheilffordd, yr A55, a phrif ddraen storm Dŵr Cymru. Mae’r bibell garthion yn rhedeg o dan y prom.”
Cyfanswm cost y gwaith yw £35m, a hyd yma mae Conwy wedi cael tua £15m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith o adfywio’r promenâd yn cynnwys gosod meinciau, coed, biniau newydd, a chreu ardal bicnic efo lle i eistedd. Bydd golau newydd, canllawiau, a dodrefn stryd newydd yn cael eu gosod, a bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i’r ffyrdd, llefydd parcio, a chroesfannau cerddwyr.
Bydd y cais cynllunio nawr yn mynd gerbron pwyllgor cynllunio Conwy.