Mae Meirion Prys Jones, fu’n cynghori Llywodraeth Cymru ar gategorïau iaith newydd mewn ysgolion yng Nghymru yn galw am flaenoriaethu deddf addysg Gymraeg newydd.

Bydd categorïau newydd yn cael eu cyflwyno o fis Medi, gyda’r nifer yn gostwng o bump i dri ar gyfer ysgolion cynradd, a thri chategori newydd yn y sector uwchradd.

Ar hyn o bryd, pedwar categori a phedwar is-gategori sydd ar gyfer ysgolion dwyieithog.

Dywed Meirion Prys Jones mai’r bwriad yw cynyddu nifer y disgyblion sy’n derbyn addysg Gymraeg a dilyn esiampl Gwlad y Basg.

Yn y sectorau cynradd ac uwchradd, ysgolion cyfrwng Saesneg fydd yng Nghategori 1, ysgolion dwy iaith fydd yng Nghategori 2, tra mai ysgolion cyfrwng Cymraeg fydd yng Nghategori 3.

“Beth wnaethon ni oedd edrych ar draws y byd i weld am batrymau llwyddiannus eraill sydd o gynyddu’r ddarpariaeth,” meddai Meirion Prys Jones wrth BBC Cymru Fyw.

“Fe welon ni gyda’r Basgiaid yn Sbaen bod nhw wedi llwyddo dros gyfnod o 30 mlynedd drwy ddefnyddio’r dull yma i gynyddu nifer y plant oedd yn dewis addysg trwy gyfrwng y Fasgeg o rywbeth fel 25% i’r 90% presennol.”

Ysgolion dwy iaith

Mae’n dadlau ymhellach nad yw’r drefn bresennol wedi sicrhau digon o dwf yn nifer y siaradwyr Cymraeg.

I’r perwyl hwnnw, bydd yr ysgolion dwy iaith yn cynnig o leiaf 50% o weithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

“Yn y cynradd, bydd yna ragor o ddewis gyda chategori newydd yn bennaf ar gyfer Dwyrain Cymru,” meddai Meirion Prys Jones wedyn.

“Y bwriad yw annog ysgolion cyfrwng Saesneg i gynnig darpariaeth yn y ddwy iaith yn gyfartal.

“Cyfle yw hyn wrth gwrs i blant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i gael mwy o gysylltiad gyda’r Gymraeg.”

Fe fydd y newidiadau yn cael eu cyflwyno o fis Medi ymlaen.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am ddeddf addysg Gymraeg hefyd, tra bod Llywodraeth Cymru’n dweud eu bod nhw “wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg” fel rhan o’u Rhaglen Lywodraethau, ac y bydd “categorïau newydd yn rhan o’r ystyriaethau hyn” ac yn “rhan hollbwysig o gynllunio addysg cyfrwng Cymraeg lleol dros y deng mlynedd nesaf”.