Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru, wedi cyhoeddi cyllid newydd gwerth £18m i gefnogi plant a phobol ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd hefyd yn helpu lleoliadau addysgol wrth i ddysgwyr ddechrau symud i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd y mis hwn.

Bydd £10m o’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol y mae’r pandemig wedi effeithio arnyn nhw, gan helpu â’u llesiant.

Bydd £8m yn cael ei ddyrannu i ysgolion, meithrinfeydd, awdurdodau lleol ac Unedau Cyfeirio Disgyblion er mwyn symud dysgwyr o’r hen system Anghenion Addysgol Arbennig i’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, wrth i’r gwaith o gyflwyno’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol barhau.

Dywed Jeremy Miles y bydd y system newydd, a gaiff ei chyflwyno dros gyfnod o dair blynedd, yn sicrhau bod plant a phobol ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hadnabod yn gyflym a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau datblygu unigol newydd, sydd wedi’u dylunio i sicrhau bod safbwyntiau’r dysgwyr wrth galon prosesau gwneud penderfyniadau, ynghyd â safbwyntiau eu rhieni a’u gofalwyr.

‘System addysg gwbl gynhwysol’

“Rydym yn benderfynol o ddarparu system addysg gwbl gynhwysol yng Nghymru – system lle mae anghenion ychwanegol yn cael eu nodi’n gynnar a’u diwallu’n gyflym, a lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael cymorth i ffynnu yn eu haddysg,” meddai Jeremy Miles.

“Mae ysgolion a meithrinfeydd eisoes yn gwneud gwaith gwych o gefnogi eu dysgwyr, ond rydym yn gwybod bod angen rhagor o adnoddau arnynt i wneud hyn.

“Dyna pam rwy’n cyhoeddi’r buddsoddiad ychwanegol hwn er mwyn helpu dysgwyr i oresgyn effeithiau’r pandemig ac i sicrhau cydraddoldeb iddynt o ran eu haddysg, eu cyfleoedd gwaith, a’u hiechyd a’u llesiant.”