Mae dau wleidydd a dau berchennog gwesty yn wynebu cyhuddiadau eu bod nhw wedi torri cyfyngiadau Covid-19 drwy drefnu cinio clwb golff yn sir Galway yn Iwerddon ym mis Awst 2020.

Mae Noel Grealish, aelod annibynnol o’r Dáil, cyn-seneddwr Fianna Fáil Donie Cassidy, a pherchnogion gwesty’r Station House, John a James Sweeney, yn wynebu cyhuddiadau am eu rhan wrth drefnu parti’r Gymdeithas Golff Oireachtas.

Mae honiadau bod y parti, lle’r oedd 81 o bobol yn bresennol, yn groes i Ddeddf Iechyd 1947 ddiwygiedig.

Grealish oedd capten y gymdeithas golff, tra bod Cassidy yn llywydd arni.

Bu’n rhaid i Dara Calleary, y gweinidog amaeth ar y pryd, gamu o’r neilltu am fod yn y parti, tra bod nifer o wleidyddion Fianna Fáil a Fine Gael wedi colli’r chwip dros dro.

Fe wnaeth Phil Hogan, Comisiynydd Ewrop, gamu o’r neilltu hefyd yn sgil yr helynt, tra bod Seamus Woulfe, barnwr yn y Goruchaf Lys, hefyd dan bwysau ar y pryd i ymddiswyddo am ei fod yntau hefyd yn y parti.

Ond daeth ymchwiliad i’r casgliad nad oedd Woulfe yn haeddu colli ei swydd.

Mae’r gymdeithas golff ddadleuol bellach wedi dod i ben.

Mae disgwyl i fwy na 50 o dystion roi tystiolaeth yn ystod yr achos, a’r disgwyl yw y bydd yn para pum niwrnod.

Baner Iwerddon

Gweinidog Amaeth Iwerddon yn camu o’r neilltu ar ôl bod mewn cinio golff

Dara Calleary wedi mynd i’r digwyddiad yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws – lai na mis ers iddo olynu gweinidog arall a gafodd ei ddiswyddo

Rhagor o wleidyddion yn camu o’r neilltu yn sgil cinio golff yn Iwerddon

Roedd y Gweinidog Amaeth Dara Calleary eisoes wedi ymddiswyddo am ei ran yn y digwyddiad yn Galway
Baner Iwerddon

Mynd i ginio golff “yn gamgymeriad enfawr”, yn ôl Taoiseach Iwerddon

Michéal Martin yn ymateb i’r helynt sydd wedi arwain at ymadawiadau ac ymddiheuriadau
Baner Iwerddon

Dara Calleary, dirprwy arweinydd Fianna Fáil, yn gadael ei swydd

Fe ddaw ar ôl iddo adael y Llywodraeth yn sgil helynt yn ymwneud â chinio golff yn Galway
Baner Iwerddon

Llywydd Comisiwn Ewrop yn “parchu” ymddiswyddiad Gwyddel wedi helynt cinio golff

Roedd Phil Hogan wedi bod dan bwysau ar ôl mynd i ginio yn ystod y cyfnod clo