Mae Gweinidog Amaeth Iwerddon wedi ymddiswyddo ar ôl bod mewn cinio golff yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws – lai na mis ar ôl iddo olynu gweinidog arall a gafodd ei ddiswyddo tros helynt yfed a gyrru.

Mae Dara Calleary wedi cadarnhau ei ymadawiad ar ôl bod yn y digwyddiad yn sir Galway gydag 80 o bobol eraill nos Fercher (Awst 19).

Mae’r Taoiseach Micheál Martin wedi derbyn ei ymddiswyddiad.

Ymhlith y gwesteion eraill yn y digwyddiad roedd Comisiynydd Ewrop Phil Hogan, yr aelod seneddol Noel Grealish, barnwr y Goruchaf Lys Seamus Woulfe a’r cyn-ddarlledwr Sean O’Rourke.

Yn ôl y wasg yn Iwerddon, roedd 81 o bobol yn bresennol ac yn defnyddio dwy ystafell.

Ddydd Mawrth (Awst 18), cyhoeddodd Llywodraeth Iwerddon gyfyngiadau newydd yn sgil ymlediad y feirws, gan gynnwys terfyn ar faint o bobol sy’n cael dod at ei gilydd ac na ddylid trefnu unrhyw ddigwyddiadau ffurfiol mewn bwytai, caffis na bwytai mewn gwestai.

Ymadawiad

Cafodd Dara Calleary ei benodi fis diwethaf ar ôl i Barry Cowen gael ei ddiswyddo am ei ran mewn helynt yfed a gyrru.

Roedd rhai aelodau seneddol yn gofidio y gallai rheolau iechyd gael eu tanseilio pe bai’n cael aros yn ei swydd.

Roedd disgwyl iddo ymddangos ar y teledu yr wythnos hon, ond fe wnaeth e dynnu’n ôl o’r rhaglen ar RTE yn dilyn yr helynt, ond cyn i’w ymadawiad gael ei gyhoeddi.

Mewn datganiad, mae e wedi ymddiheuro gan ddweud na ddylai fod wedi mynd i’r digwyddiad.

Mae lle i gredu ei fod e wedi ymddiheuro’n bersonol wrth y Taoiseach, a’i fod e hefyd wedi cysylltu ag arweinwyr Fine Gael a’r Blaid Werdd.