Mae Joe Biden wedi addo symud yr Unol Daleithiau y tu hwnt i’r argyfwng sydd wedi bod o dan yr Arlywydd Donald Trump, wrth iddo dderbyn enwebiad arlywyddol y Democratiaid.

Yn ei araith, fe gyfeiriodd at ddychwelyd at ddull traddodiadol o arwain y wlad a’r heriau personol sydd wedi ei wneud yr hyn yw e fel person.

“Yma ac yn awr, rhoddaf fy addewid i chi: Os ydych chi’n ymddiried ynof fi â’r arlywyddiaeth, fe wnaf fi dynnu ar y gorau ohonom ni, nid y gwaethaf.

“Byddaf yn ffrind i oleuni, nid i dywyllwch.

“Peidiwch â chamddeall, gyda’n gilydd fe allwn ni ac fe fyddwn ni’n goresgyn y tymor hwn o dywyllwch yn America.”

Chwerwfelys

Doedd dim modd i Joe Biden, sy’n 77 oed, gael dathliad traddodiadol yn sgil y coronafeirws.

Yn hytrach, fe wnaeth e annerch neuadd ger ei gartref yn Delaware oedd yn wag i raddau helaeth.

Roedd tân gwyllt i ddilyn, gyda phobol yn gwylio ac yn canu cyrn eu ceir ac yn fflachio goleuadau.

Joe Biden fyddai’r arlywydd hynaf erioed pe bai’n llwyddo i drechu Donald Trump – rhywbeth sydd wedi bod yn destun gwawd gan yr arlywydd, sy’n galw ei wrthwynebydd yn ‘Slow Joe’.

Mae pobol o bob cwr o’r gymdeithas yn cefnogi ei enwebiad wrth iddo geisio uno’r wlad yn wyneb y coronafeirws, economi sydd wedi gwanhau a phrotestiadau gwrth-hiliaeth.

Ymhlith ei flaenoriaethau polisi mae newid hinsawdd, tynhau cyfreithiau’n ymwneud â dryllau a meithrin polisi ddyngarol ar gyfer ffoaduriaid – y gwrthwyneb yn llwyr i’r arlywydd presennol.

Mae Joe Biden hefyd wedi goroesi trasiedi bersonol.

Roedd ganddo fe atal ddweud oedd yn ddifrifol pan oedd e’n blentyn, ac fe gollodd ei wraig a merch fach mewn damwain car.

Bum mlynedd yn ôl, fe gollodd ei fab hynaf ar ôl iddo fod yn sâl â chanser.