Roedd cannoedd o dai heb bŵer yng Nghymru fore heddiw (dydd Gwener, Awst 21) ar ôl i wyntoedd cryfion Storm Ellen daro.

Yn gynt yn y bore, roedd Western Power Distribution yn adrodd bod 323 o gartrefi heb bŵer yn sir Caerffili, 175 yn Sir Fynwy, a 63 ym Mro Morgannwg.

Ac yn ddiweddarach yn y bore, roedd dwsinau o gartrefi yn dal i fod heb bŵer yng Nghwmbrân, Dinas Powys, Abercynon, Rhadyr, Llandysul a Llanfair-ym-Muallt.

Mae’r cwmni’n gobeithio adfer pŵer ym mhob adeilad erbyn 8yb.

Mae Pont Hafren yr M48 wedi’i chau i’r ddau gyfeiriad oherwydd gwyntoedd cryfion, ac mae cyfyngiadau teithio mewn grym ar Bont Britannia yn Ynys Môn.

Mae’r cyfyngiadau hynny yn effeithio ar feicwyr, beicwyr modur, a charafanau.