Mae’r elusennau Asthma UK a Sefydliad yr Ysgyfaint Prydain wedi galw ar benaethiaid gofal cymdeithasol yng Nghymru i annog eu gweithwyr i gael y brechlyn ffliw cyn y gaeaf.

Mae’r elusen yn gofidio y gallai cynnydd yn achosion y ffliw ddigwydd yr un pryd ag ail don o’r coronafeirws.

“Wrth i’r gaeaf agosáu, rhaid i ni sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i osgoi cynnydd peryglus mewn achosion o’r ffliw.” meddai Joseph Carter, Pennaeth yr elusennau.

“Dyna pam rydym yn annog cyflogwyr gofal cymdeithasol i wneud popeth o fewn eu gallu i wneud y brechlyn ffliw yn flaenoriaeth iddyn nhw nawr.

“Y newyddion da yw fod mwy o bobol nag erioed o’r blaen yn gymwys i gael y brechlyn eleni.”

Gostwng o 65 i 50

Mae Llywodraeth Cymru’n wedi ymestyn ei rhaglen ar gyfer brechu rhag y ffliw yn sgil y coronafeirws.

Mae’r oedran pan fo’r brechlyn yn cael ei gynnig yn cael ei ostwng o 65 i 50.

Yn ogystal â hyn, bydd menywod beichiog, pobol sydd â chyflyrau iechyd, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a phawb sy’n byw â rhywun fu’n cysgodi rhag y coronafeirws hefyd yn gymwys am y brechlyn.

“Gall gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n delio’n uniongyrchol â chleifion gael brechlyn y ffliw am ddim, ond i’r rhai sy’n gweithio mewn cartrefi gofal, cyfrifoldeb y cyflogwyr yw darparu’r brechlyn ac annog staff i gael eu brechu,” meddai Joseph Carter.

“Rhaid i’r cyflogwyr hyn wneud popeth o fewn eu gallu i’w gwneud mor hawdd â phosibl i’w gweithwyr gael y brechlyn.

“Dyma’r unig ffordd y gallwn gadw ffliw dan reolaeth a thrwy hynny gadw pobl yn ddiogel.”

Canfu arolwg diweddar a gafodd ei gynnal gan yr elusen fod 90% yn bwriadu cael y brechlyn ffliw eleni a dywedodd mwy na hanner eu bod yn fwy tebygol o’i gael oherwydd y coronafeirws.