Mae llys wedi clywed bod grŵp o ddynion ac un llanc, sydd wedi’u cyhuddo o drywanu a dwyn gan dad i un, wedi ei “wawdio” wrth iddo fe farw.

Bu farw Ryan O’Connor, dyn 26 oed o Alway yng Nghasnewydd, o ganlyniad i’w anafiadau, funudau ar ôl ymosodiad ger cylchfan Aberddawan nos Iau, Mehefin 10 y llynedd.

Mae Lewis Aquilina (20), Elliott Fiteni (20), Kyle Rasis (18), Ethan Strickland (19) a Joseph Jeremy (17), i gyd o Gaerdydd, yn cael eu cyhuddo o lofruddiaeth, dynladdiad a lladrata.

Dywedodd yr erlynydd Michael Brady QC wrth Lys y Goron Casnewydd fod marwolaeth Ryan O’Connor yn achos o “lofruddiaeth wnaeth ddeillio o ladrad” a bod y pum diffynnydd yn gyfrifol.

Yn ôl tystion, ar ôl i ddau neu fwy o’r diffynyddion drywanu Ryan O’Connor gan ddefnyddio cyllyll mawr tebyg i machete, roedd y dynion wedi gyrru i ffwrdd ar gyflymder, gan chwerthin wrth iddyn nhw ffoi.

“Teithiodd y pump o Gaerdydd i Gasnewydd mewn Ford Fiesta gafodd ei ddwyn yn oriau mân yr un diwrnod, ac wrth weld Mr O’Connor yn gwisgo bag Gucci penderfynodd ei ddwyn,” meddai’r erlynydd.

“Fe wnaeth o leiaf dau ddiffynnydd adael y car gyda chyllyll oedd newydd eu prynu, gan ymosod a lladd Mr O’Connor.

“Roedd gyrrwr y car yn anghyfarwydd â’r ardal ac fe yrrodd i fyny Vaughan Williams Drive.

“Yna bu’n rhaid iddynt droi o gwmpas a gyrru’n ôl heibio i Mr O’Connor a oedd wedi ei glwyfo’n angheuol ac yn cael ei drin gan aelodau o’r cyhoedd.

“Fe wnaeth y gyrrwr arafu’r car i lawr, nid am ei fod yn pryderu am Mr O’Connor, ond er mwyn ei wawdio.

“Cafodd chwerthin ei glywed yn dod o du mewn i’r car.”

Tystiolaeth fforensig

Yn ôl yr erlynydd, mae tystiolaeth fforensig yn cysylltu Joseph Jeremy ag un o’r cyllyll yn ogystal â sigarét y daethpwyd o hyd iddo y tu mewn i’r bag Gucci wedi’i ddwyn.

Yn y cyfamser, dywedwyd y gellid cysylltu Kyle Rasis â’r ail gyllell yn y car, tra bod gwaed Ryan O’Connor wedi’i ganfod ar drowsus ac esgid dde Lewis Aquilina.

Dywedodd nad oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod y diffynyddion yn adnabod Ryan O’Connor, ond mae’n credu eu bod nhw wedi teithio i Gasnewydd i gyflawni trosedd.

“Ni all y Goron ddweud ai dyna oedd y cynllun, neu a oedden nhw wedi cytuno ar beth i’w wneud, ond yr hyn sy’n amlwg yw fod y diffynyddion wedi gadael Caerdydd gyda thair cyllell ac wedi teithio mewn car wedi’i ddwyn, a phlatiau rhif wedi’u clonio.

“Roedd ganddyn nhw fenig a balaclafas yng nghanol mis Mehefin ac roedd pob diffynnydd yn ymwybodol o’r cyllyll.”

Dywedodd y bargyfreithiwr ei fod yn rhagweld y byddai’r diffynyddion i gyd yn cyfaddef eu bod yn y car ond yn gwadu mai nhw oedd y rhai a aeth allan o’r car ac ymosod ar Ryan O’Connor, ond fod yr erlyniad yn bwriadu profi bod y pump “ar y cyd” yn euog.

Mae’r achos yn parhau.

Pedwar dyn a llanc yn y llys wedi’u cyhuddo o lofruddio dyn a dwyn bag Gucci

Cafwyd hyd i Ryan O’Connor yn anymwybodol yng Nghasnewydd fis Mehefin y llynedd