Mae Grant Shapps wedi ymateb yn chwyrn ar ôl i lys gael pedwar o bobol yn ddieuog o ddifrod troseddol am dynnu cofgolofn Edward Colston i lawr a’i thaflu i’r dŵr ym Mryste.

All difrodi eiddo cyhoeddus “fyth bod yn dderbyniol”, meddai wrth ymateb i’r helynt yn ymwneud â’r gofeb i’r masnachwr caethweision.

Mae’n mynnu y bydd deddfwriaeth newydd yn cau bwlch posib sy’n cyfyngu ar y gallu i erlyn pobol sy’n difrodi cofgolofnau.

Cafodd Rhian Graham (30), Milo Ponsford (26), Sage Willoughby (22) a Jake Skuse (33) eu herlyn am eu rhan yn y digwyddiad yn ystod protest Black Lives Matter yn y ddinas ar Fehefin 7, 2020 ond roedd llawer mwy o bobol yn bresennol wrth i’r drosedd honedig gael ei chyflawni.

Roedd chwech arall yn destun gorchymyn cyfiawnder adferol ac roedd yn rhaid iddyn nhw dalu dirwy o £100, cwblhau gwaith di-dâl a llenwi holiadur ynghylch y weithred.

Difrod troseddol a deddfwriaeth newydd

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, gall unigolyn gael hyd at ddeng mlynedd o garchar am ddifrod troseddol, ond mae’n ddibynnol ar faint o ddifrod sy’n cael ei achosi.

Os oes llai na £5,000 o ddifrod, y gosb fwyaf yw tri mis o garchar a dirwy o £2,500.

Ond byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn galluogi’r llys i ystyried effaith “emosiynol neu ehangach” y weithred o ddifrodi eiddo cyhoeddus, ac yn codi’r gosb fwyaf i ddeng mlynedd o garchar waeth beth yw’r gost.

Byddai hyn yn cynnwys blodau ar gofebion.

Mae Grant Shapps wedi gwrthod gwneud sylw am yr achos penodol, ond fe ddywedodd nad yw difrodi eiddo’n “dderbyniol”.

“Rydyn ni’n byw mewn gwlad ddemocrataidd,” meddai.

“Os ydych chi eisiau gweld pethau’n newid, gallwch chi eu newid nhw.

“Rydych chi’n gwneud hynny drwy’r blwch pleidleisio, neu drwy ddeiseb i’ch cyngor lleol ac ati.

“Dydych chi ddim yn ei wneud e drwy fynd allan ac achosi difrod troseddol.”

Gwadu cynsail

Mae un o’r diffynyddion, Rhian Graham, yn gwadu bod y weithred ym Mryste wedi gosod cynsail i bobol eraill fynd allan i ddymchwel cofgolofnau.

“Dw i’n deall pryderon pobol yn llwyr, a dw i wir ddim yn credu bod hwn yn olau gwyrdd i bawb jyst ddechrau dymchwel cofgolofnau,” meddai wrth raglen Good Morning Britain ar ITV.

“Y cerflun hwn yn y ddinas hon ar yr adeg hon yw’r eiliad yma.

“Bydda i’n gadael tynged cofgolofnau mewn dinasoedd eraill i drigolion y dinasoedd hynny.”

Yn ôl yr hanesydd ac awdur David Olusoga, mae’r rheithfarn yn dangos mai’r dystiolaeth ac nid y sylw cyhoeddus na “rhyfel diwylliannol” oedd dan ystyriaeth yn y llys.