Mae degau o bobol wedi cael eu lladd yn Kazakhstan ar ôl gwrthdaro yn y ddinas fwyaf.

Roedd protestwyr wedi ceisio torri i mewn i adeiladau’r llywodraeth yn Almaty dros nos, ac yn ôl llefarydd yr heddlu, roedd “dwsinau o ymosodwyr wedi cael eu lladd”.

Bu farw o leiaf ddwsin o swyddogion yr heddlu yn ystod y terfysgoedd hefyd, tra bod 353 wedi cael eu hanafu, yn ôl gorsaf newyddion yn y wlad.

Bellach, mae milwyr o Rwsia wedi cael eu hanfon i Kazakhstan er mwyn cadw heddwch yno, ar ôl i’r arlywydd bledio am gymorth i ddelio â’r protestiadau, sy’n deillio o gynnydd mewn prisiau tanwydd.

Cafodd adeilad maer dinas Almaty ei feddiannu a’i roi ar dân ddydd Mercher (Ionawr 4) hefyd, yn ystod yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel y protestiadau stryd gwaethaf ers i’r wlad ennill ei hannibyniaeth o’r Undeb Sofietaidd dri degawd yn ôl.

Mae’r heddlu wedi bod mewn gwrthdaro gydag ymgyrchwyr yn ystod y dyddiau diwethaf, gan danio nwy dagrau a chwistrellu dŵr i geisio llethu’r protestiadau, ac mae cyrffiw a chyfyngiadau wedi cael eu gosod yn genedlaethol.

Fe wnaeth y llywodraeth ymddiswyddo yn dilyn y terfysgoedd.