Mae Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru’n dymuno gweld bysus trydan yn cael eu hadeiladu yng Nghymru yn hytrach na’u mewnforio o Tsieina.

Yn ôl Lee Waters, byddai sefydlu ffatri ar gyfer bysus yn fodd o greu swyddi gwyrdd.

Daw hyn wedi i gwmnïau bysus yng Nghasnewydd a Chaerdydd brynu bysus o Tsieina gan gynhyrchwr Yutong.

Dywedodd Lee Waters wrth BBC Cymru ei fod am weld swyddi gwyrdd yn cael eu creu drwy adeiladu bysus gweithgynhyrchu yng Nghymru “wedi holl drethdalwyr Cymru yn mynd i dalu amdanyn nhw”.

“Oni bai ein bod yn gwneud yr ymdrech ni fydd byth yn digwydd,” meddai.

Mae Lee Waters yn dadlau bod prynu bysus o dramor yn golygu bod miliynau o bunnoedd yn gadael Cymru ond mae’n gwneud yn glir nad yw’n beirniadu penderfyniad y cwmnïau sy’n gwneud hynny.

Mae gan Gymru darged Carbon Sero-Net erbyn 2050 ond yn dilyn y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, mae bwriad i ddod â’r darged honno i’r flwyddyn 2035.

Er bod bysiau Yutong yn cael eu prynu o Tsieina, maen nhw’n cynnwys seddi Isri sy’n cael eu cynhyrchu yn Wrecsam, ac mae’r bysus hyn yn cael eu rhoi at ei gilydd gan Pelican Bus and Coach yn Castleford yn Swydd Efrog.

Dod â swyddi i Gymru

Dywed un cwmni yn Lloegr sydd eisoes yn gwneud bysiau trydan, Switch Mobility, eu bod nhw wedi bod yn ceisio ehangu gyda’r dymuniad o ddod â swyddi i Gymru, ond heb unrhyw lwyddiant.

Yn ôl Andy Palmer, prif weithredwr y cwmni, mae’r ffatri yn Swydd Efrog yn llawn capasiti ac mae e’n awyddus i sefydlu ffatrïoedd newydd.

“Rwy’n chwilio am lefydd i ehangu Switch ac rwyf wedi manteisio ar y cyfle i edrych ar Gymru oherwydd yn fy nghwmni blaenorol, adeiladais ffatri geir yng Nghymru,” meddai.

Dywed fod Cymru ar ei cholled o ran swyddi medrus a bod “rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn symud yn llawer mwy ymosodol ac mae’n ymddangos bod ganddynt awydd i ehangu ein cyfleuster”.

Cafodd y bysus trydan cyntaf yng Nghymru eu lansio yn 2020 yn ninas Casnewydd er mwyn gwella ansawdd aer yn y ddinas.

Mae cynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer gwasanaeth bysus trydan rhwng Aberystwyth, Llambed a Chaerfyrddin wedi cael eu cymeradwyo.

Mae disgwyl y bydd y bysus newydd yn cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth erbyn diwedd 2022 ar ôl i’r cytundeb presennol ddod i ben.

Ar hyn o bryd, mae’r ffordd 48 milltir rhwng y tair tref yn cael ei gwasanaethu gan y gweithredwr bysiau First Cymru, gyda’r cytundeb hwnnw yn dod i ben ym mis Hydref y flwyddyn nesaf.

Fydd y bysus diesel sydd yn cael eu defnyddio ar y llwybr ar hyn o bryd ddim yn cael eu defnyddio wedi hynny.

Daw sylwadau Lee Waters, Aelod o’r Senedd yn Llanelli, wrth i Gyngor Sir Gaerfyrddin dendro am gynhyrchwyr ar gyfer bysus y sir.

Mae’r Cyngor Sir wedi clustnodi £4.8m am ddepo bysus newydd yng Nghaerfyrddin, ynghyd ag wyth o fysus trydan.

Bysiau trydan rhwng Aberystwyth, Llanbed a Chaerfyrddin

Bydd y bysiau dîsl presennol yn cael eu cyfnewid am rai trydan erbyn diwedd 2022