Mae cynlluniau ar gyfer gwasanaeth bysiau trydan rhwng Aberystwyth, Llambed a Chaerfyrddin wedi cael eu cymeradwyo.
Mae disgwyl y bydd y bysiau newydd yn cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth erbyn diwedd 2022 ar ôl i’r cytundeb presennol ddod i ben.
Ar hyn o bryd, mae’r ffordd 48-milltir rhwng y tair tref yn cael ei wasanaethu gan y gweithredwr bysiau First Cymru, gyda’r cytundeb hwnnw yn dod i ben ym mis Hydref flwyddyn nesaf.
Bydd y bysus diesel sydd yn cael eu defnyddio ar y llwybr ar hyn o bryd ddim yn cael eu defnyddio wedi hynny.
Canolfan newydd
Cafodd y cynlluniau eu cadarnhau ar ôl i bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr gymeradwyo cais ar gyfer canolfan fysiau newydd ar Ffordd Llysonnen, tua dwy filltir i’r gorllewin o ganol tref Caerfyrddin.
Mae Llywodraeth Cymru, sy’n bwriadu i Gymru fod yn wlad sero-net carbon erbyn 2050, wedi darparu £4.8 miliwn i’r Cyngor adeiladu’r ganolfan newydd, lle bydd wyth o fysiau trydan yn cael eu cadw, gyda phwyntiau gwefru ar y safle hefyd.
Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys ystafell gyfarfod, swyddfa, a thoiledau a chawod i’r staff.
Roedd cadeirydd y pwyllgor cynllunio, y Cynghorydd Alun Lenny, yn tybio bod lleoliad y ganolfan yn berffaith ac nad oedd o mewn amheuaeth mai bysiau trydan oedd y dyfodol.
Fe gefnogodd cynghorwyr eraill y cynllun, gyda’r Cynghorydd Kevin Madge yn gobeithio am “fwy o brosiectau fel hyn yn y blynyddoedd i ddod.”