Mae Boris Johnson yn wynebu cwestiynau’r Prif Weinidog yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw (dydd Mercher, 24 Tachwedd) yn sgil beirniadaeth o’i arweinyddiaeth gan Geidwadwyr meinciau cefn.

Daw hyn yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys araith fler yng nghynhadledd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain a gwrthryfel gan aelodau meinciau cefn dros ei bolisi gofal cymdeithasol.

Fe wnaeth 19 o Aelodau Seneddol Ceidwadol bleidleisio yn erbyn y Llywodraeth ar y polisi gofal cymdeithasol tra bod dwsinau wedi atal eu pleidlais.

Yn ystod yr araith i Gydffederasiwn Diwydiant Prydain ddydd Llun (22 Tachwedd) roedd Boris Johnson wedi colli ei le wrth ddarllen ei nodiadau, a bu’n siarad am ymweliad â Peppa Pig World wrth geisio achub y sefyllfa.

Roedd Downing Street wedi mynnu bod y Prif Weinidog yn gorfforol “iach” yn dilyn cwestiynau am ei araith.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Dominic Raab: “Mae’r Prif Weinidog yn berffaith iawn.”

Mae sibrydion am straen rhwng Boris Johnson a Rishi Sunak ers i “ffynhonnell yn Downing Street” ddweud wrth y BBC bod “llawer o bryder  am y Prif Weinidog” ac nad yw “pethau’n gweithio”.

“Colli hyder”

Dywedodd un Aelod Seneddol Torïaidd wrth asiantaeth newyddion PA fod Boris Johnson yn “colli hyder” ei aelodau meinciau cefn a dylai roi’r gorau i’w swydd yn y flwyddyn newydd.

Nid oedd yr Aelod Seneddol am ddweud a oedd wedi cyflwyno llythyr i Bwyllgor 1922, pwyllgor meinciau cefn y blaid, yn galw ar y Prif Weinidog i ymddiswyddo.

Pe bai 15% o’r Ceidwadwyr yn cyflwyno llythyrau i’r Pwyllgor 1922 yna byddai pleidlais o ddiffyg hyder ar ei arweinyddiaeth.

Pan ofynnwyd am yr awgrym bod llythyrau wedi’u hanfon at Bwyllgor 1922, dywedodd Dominic Raab wrth LBC: “Mae yno wastad sibrydion o gwmpas San Steffan ac nid wyf yn ymwybodol o hynny.”