Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi croesawu’r ymrwymiad yn y cytundeb rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gynyddu hawliau siaradwyr Cymraeg.
Mae o leiaf chwe maes yn ymwneud yn uniongyrchol â’r Gymraeg, gan gynnwys ymrwymo i wella safonau’r Gymraeg ar draws sectorau, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, cwmnïau dwr, a chyrff cyhoeddus eraill.
Byddan nhw hefyd yn cymryd camau pellach i wireddu’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chyflwyno Bil Addysg Gymraeg.
Croesawu
Mae Comisiynydd y Gymraeg Aled Roberts wedi croesawu’r ymrwymiadau a’r cyfle i gydweithio â’r Llywodraeth wrth osod safonau iaith.
“Mae tystiolaeth glir bod safonau’r Gymraeg wedi arwain at wella profiadau pobl wrth ddefnyddio gwasanaethau,” meddai.
“Mae’r safonau hefyd wedi arwain at greu sefyllfa lle mae gan weithwyr ragor o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith yn eu gwaith, lle cymerir perchnogaeth ar lefel sirol dros hybu’r defnydd o’r Gymraeg a lle mae dyletswydd i ystyried yr iaith mewn penderfyniadau polisi.
“Yn fy argymhellion maniffesto i’r pleidiau gwleidyddol cyn Etholiad y Senedd, gelwais am gynnal y momentwm er mwyn sicrhau cysondeb ar draws sefydliadau, a bod y Llywodraeth yn ailafael yn y broses o osod safonau ar y cyfle cyntaf gan ddod â nifer cynyddol o sefydliadau o dan y gyfundrefn honno.
“Rwy’n croesawu gweld yr ymrwymiad i wneud hyn yn y Cytundeb Cydweithio, ac edrychaf ymlaen at gydweithio â’r Llywodraeth i sicrhau bod y gwaith o gyflwyno safonau i ragor o sectorau yn dechrau yn ddi-oed.”
Argymhellion
Mae nifer o argymhellion gan y Comisiynydd wedi eu hystyried, gan gynnwys cynyddu athrawon cyfrwng Cymraeg, cynyddu cymwysterau sydd ar gael yn Gymraeg, a diogelu a gwarchod enwau lleoedd Cymraeg.
“Rwy’n croesawu gweld yr argymhellion hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Cytundeb Cydweithio,” meddai Aled Roberts.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y Llywodraeth yn cyflwyno polisïau a fydd yn arwain at greu’r hinsawdd i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r ganran sy’n defnyddio’r iaith yn ddyddiol.”