Mae dyn sydd â “diddordeb obsesiynol” â Covid-19 wedi cael ei garcharu am anfon pecyn amheus i ffatri frechlynnau yn Wrecsam.
Roedd pryder mai bom oedd yn y pecyn, a gafodd ei anfon gan Anthony Collins, 54, i ffatri prosesu brechlynnau Rhydychen/AstraZeneca fis Ionawr, gan achosi “anrhefn”.
Cafodd gwaith cynhyrchu ei atal yn y ffatri am gyfnod yn sgil y digwyddiad.
Clywodd y llys fod Anthony Collins wedi anfon pecynnau tebyg i Downing Street a labordy yn Wuhan yn Tsieina, yn ogystal ag i lefydd eraill.
Roedd Anthony Collins, sy’n dod o Gaint, wedi mynd gerbron Llys y Goron Maidstone heddiw (24 Tachwedd) i glywed ei ddedfryd ar ôl cael ei ganfod yn euog o ddosbarthu eitem drwy’r post gyda’r bwriad o achosi’r gred y gallai ffrwydro.
Clywodd y llys fod yr heddlu ac uned difa bomiau’r fyddin wedi cael eu hanfon i safle Wockhardt yn Wrecsam ar 27 Ionawr eleni.
Bu’n rhaid ffrwydro’r pecyn yn ddiogel er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd yn cynnwys deunyddiau ffrwydrol.
Cafodd pecynnau tebyg a gafodd eu hanfon gan Anthony Collins i Rif 10 Downing Street, AstraZeneca, safle Awyrlu’r Unol Daleithiau yn Sir Gaerloyw, labordy yn Wuhan, ac at arweinydd Gogledd Korea, Kim Jong-un, eu hatal rhag cyrraedd pen eu taith.
Clywodd y llys bod Anthony Collins wedi datblygu “diddordeb obsesiynol” gyda’r feirws a’r brechlynnau.
“Ofn ac anhrefn”
Wrth gyhoeddi’r ddedfryd, dywedodd y Barnwr David Griffith-Jones wrth Anthony Collins: “Mae cael y cymhelliad i yrru gohebiaeth amheus i wahanol gyrff ac awdurdodau yn un peth, a gallai gael ei ystyried fel mympwy diniwed.
“Ond dyw hynny ddim yn esbonio eich ymddygiad yn fan hyn, sef anfon bom ffug yn gwybod yn iawn y byddai’n achosi ofn ac anhrefn.”
Fe wnaeth Anthony Collins fynnu fod cynnwys y pecyn i fod i helpu gwyddonwyr ar safle Wockhardt yn Wrecsam, ond dywedodd y barnwr fod hynny’n “blentynnaidd”.
Rhoddodd y barnwr ddedfryd o 27 mis o garchar i Anthony Collins.