Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried pasys Covid ar ôl i sinemâu weld gostyngiad mawr mewn cwsmeriaid ers eu cyflwyno.

Mae’r blaid hefyd yn galw am amlinelliad o’r gefnogaeth ariannol neu’r digollediadau fydd ar gael i fusnesau sydd wedi eu taro oherwydd y system.

Dywed un o gyfarwyddwyr canolfan Galeri yng Nghaernarfon fod gwerthiant tocynnau i’r sinema wedi haneru, gyda sinema Empire yng Nghaergybi hefyd yn gweld gostyngiad enfawr hefyd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr wythnos hon a ddylid ymestyn pasys Covid i’r sector lletygarwch, gan gynnwys tafarndai, bwytai a chaffis.

Mae Llywodraeth yr Alban – a gyflwynodd y pasys Covid gyntaf ym mis Hydref – eisoes wedi penderfynu peidio eu hymestyn i’r sector lletygarwch am y tro.

Galwadau

Roedd Tom Giffard, Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yn galw ar y Llywodraeth i ystyried diddymu’r pasys “yn llwyr.”

“Rydyn ni wedi bod yn erbyn y pasys hyn o’r cychwyn cyntaf oherwydd does dim tystiolaeth eu bod nhw’n atal lledaeniad Covid-19, a nawr rydyn ni’n gweld pa mor wael maen nhw’n taro busnesau,” meddai.

“Mae angen cefnogaeth gweinidogion Llafur ar ein diwydiant lletygarwch a hamdden wrth i ni geisio adfer o’r pandemig – nid eu bwrw nhw â mwy o gyfyngiadau gwrth-fusnes sy’n peryglu bywoliaethau a swyddi.

“Gyda busnesau eisoes yn dioddef colledion sylweddol, rhaid i weinidogion Llafur amlinellu ar frys pa iawndal neu gefnogaeth ariannol y byddan nhw’n ei ddarparu i’r cwmnïau hynny sy’n cael eu taro gan y polisi llym iawn hwn.

“Rhaid i Lafur nawr ddiystyru cynlluniau i ymestyn pasys Covid ac ystyried eu diddymu’n llwyr oherwydd mae’n amlwg eu bod nhw’n niweidio busnesau heb fawr o dystiolaeth eu bod nhw’n cadw pobl yn ddiogel.

“Y brechlynnau a’r ymgyrch atgyfnerthu sy’n helpu i gadw Cymru’n ddiogel – nid pasbortau.”

Ymateb y Llywodraeth

Mewn ymateb i’r alwad gan y Ceidwadwyr, dywed Llywodraeth Cymru fod y pasys yn lleihau lledaeniad y feirws, ac eu bod nhw’n cefnogi busnesau.

“Mae achosion o coronafeirws yng Nghymru yn parhau i fod yn uchel iawn,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Mae Pàs Covid y GIG yn ffordd arall rydym yn cryfhau’r mesurau sydd gennym ar waith i’n cadw ni i gyd yn ddiogel – ac i gadw busnesau ar agor.

“Rydym yn parhau i gefnogi busnesau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ofyn am Bàs Covid gydag ystod o gyngor ac arweiniad.”