Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi ymddiheuro am “faterion difrifol” gyda’r gofal gafodd ei roi ganddyn nhw i blant ag anableddau.
Yn 2020 fe wnaeth y Bwrdd Iechyd weld bod nifer o brofiadau cleifion o fewn y Tîm Nyrsio Plant Cymunedol yn achosi pryder, ac fe wnaethon nhw gytuno i gomisiynu adroddiad annibynnol i’r gwasanaeth.
Cafodd yr adroddiad ei gwblhau rhwng mis Mawrth a mis Medi eleni, gan edrych ar 20 o blant a dderbyniodd Ofal Parhaus rhwng Ebrill 2019 a Medi 2020.
Daeth yr adroddiad i’r canlyniad bod “cyfyngiadau” yn atal teuluoedd rhag derbyn y safon o wasanaeth y bydden nhw wedi disgwyl ei derbyn.
Fe wnaeth yr adroddiad ddarganfod bod teuluoedd yn rhwystredig dros lefelau gwael o gyfathrebu, a bod y berthynas rhwng rhieni a staff “yn wael”.
Fe wnaeth yr arolygwyr ganolbwyntio ar ddiwylliant y gofal a rhan y teulu yn y gofal hwnnw, profiadau uniongyrchol plant a theuluoedd gyda’r gwasanaeth, y cysylltiad uniongyrchol â staff o fewn y gwasanaeth, a safonau nyrsio proffesiynol y tîm.
“Cwbl annerbyniol”
Wrth ymateb i’r adroddiad dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Bae Abertawe bod problemau gyda’r gofal a’r arweinyddiaeth “ers peth amser”, a bod hynny’n “hynod siomedig a chwbl annerbyniol”.
“Ar ran y bwrdd iechyd, dw i’n ymddiheuro’n ddiffuant i’r teuluoedd gafodd eu heffeithio,” meddai’r Prif Weithredwr, Mark Hackett.
“Rydyn ni’n gwybod bod teuluoedd yn chwarae rhan arbennig o bwysig wrth ofalu am blant â phroblemau iechyd parhaus. Felly mae’n hanfodol eu bod nhw’n cael eu gweld fel rhan o dîm y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n darparu’r gofal hwn.
“Yn anffodus, mae’r adroddiad hwn yn dangos nad dyna yw profiad cyfran sylweddol o’r rhieni.
“Gallwch fod yn ffyddiog y bydd hyn yn newid. Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod y gwasanaeth yn fwy cynhwysol o lawer yn y dyfodol, ac yn canolbwyntio ar anghenion penodol y plentyn.
“Ein blaenoriaethau nawr yw adfer y berthynas â theuluoedd, a gweithio gyda nhw er mwyn gwella ein gwasanaethau.”
Newidiadau
Ers i’r adroddiad gael ei gomisiynu, mae rhieni wedi dweud bod gwelliannau yn y gwasanaethau, a’u perthynas â’r staff, meddai Mark Heckett.
“Fodd bynnag, mae yna lawer mwy i’w wneud, a byddwn ni’n gwahodd arolygwyr annibynnol yn ôl mewn 12 mis i wirio’r cynnydd.”
Mae arweinyddiaeth y gwasanaeth wedi newid, ac yn ôl Mark Heckett bydd partneriaethau rhwng staff a theuluoedd yn rhan o strategaeth y gwasanaeth yn y dyfodol.
Bydden nhw hefyd yn llunio Cytundeb Rhieni newydd, a fydd yn nodi gwaith a disgwyliadau’r bwrdd iechyd a’r teuluoedd, a bydd yn cael ei lunio ar y cyd â rhieni.
“Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r teuluoedd am eu hamser a’u hymdrech wrth ymgysylltu gyda’r tîm arolygu annibynnol. Dw i’n gwybod nad yw hyn wedi bod yn hawdd iddyn nhw. Fodd bynnag, mae eu mewnwelediad, eu barn, a’u hadborth yn werthfawr wrth symud ymlaen.
“Rydyn ni’n gobeithio ein bod ni nawr yn gallu symud ymlaen at gyfnod newydd i’n Gwasanaethau Nyrsio Plant Cymunedol. Gan weithio ochr yn ochr â theuluoedd, rydyn ni’n anelu tuag at gynnig y gofal gorau posib i’r bobol ifanc agored i niwed hyn yn y blynyddoedd o’n blaenau.”
Mae’r Bwrdd Iechyd wedi datblygu cynllun gweithredu i wella’r Gwasanaeth hefyd, sy’n cynnwys datblygu fforwm bartneriaid, cynnwys rhieni yn y gwaith o ddatblygu’r gwasanaeth, ac ystyried ffyrdd effeithiol o gynnig gofal mwy amserol a hyblyg.
Bydden nhw hefyd yn cynnig cyfleoedd cyson i rieni roi adborth ffurfiol ac anffurfiol, yn sicrhau arweinyddiaeth gref, ac yn sicrhau bod pryderon a chwynion yn cael eu cofnodi a’u datrys yn gywir.
Ynghyd â hynny bydden nhw’n darparu hyfforddiant ychwanegol, arbenigol i staff, ac yn adolygu gofynion y gweithlu a’u sgiliau.