Mae angen buddsoddi er mwyn sicrhau bod rheilffyrdd Cymru’n gallu gwrthsefyll llifogydd, meddai’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts.
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wrth golwg360 fod angen sicrhau bod y rheilffyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd arfordirol, yn rhan o’r amddiffynfeydd, yn ogystal â’u bod nhw’n ddolenni cyswllt rhwng ardaloedd.
Dywedodd hefyd fod y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gam yn y cyfeiriad cywir er mwyn gwella cysylltiad a thrywydd rheilffyrdd y wlad.
Yn dilyn cyfarfod â Thrafnidiaeth Cymru’r wythnos ddiwethaf, dywedodd yr Aelod Seneddol ei bod hi’n “bryderus” am “ba mor fregus ydi ein system drafnidiaeth i effaith llifogydd, boed hynny o afonydd neu o’r môr”.
“Rydyn ni angen buddsoddi i wneud yn siŵr bod y rheilffyrdd hynny’n parhau, nid dim ond oherwydd y dolenni trafnidiaeth y maen nhw’n eu cyfrannu ond hefyd eu bod nhw’n rhan o’r amddiffynfeydd, yn enwedig ar hyd yr arfordir, i’r cymunedau hynny sydd tu ôl iddyn nhw,” meddai Liz Saville Roberts.
“Mae cynnal y rheilffordd yn rhoi diogelwch a sicrwydd iddyn nhw, ar yr un pryd â chadw’r linc cysylltiad.”
Cytundeb Cydweithio: Caerfyrddin ac Aberystwyth
Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth yn gam yn y cyfeiriad cywir o ran cryfhau cysylltiadau trenau a gwella siâp rheilffyrdd y wlad, medd Liz Saville Roberts, gan ychwanegu na fydd HS2 o fudd i Gymru.
“Mae unrhyw un sy’n edrych ar siâp ein rheilffyrdd yng Nghymru’n gweld ei fod yn rhyw fodel o dynnu’r trêns allan o Gymru cyn gynted ag sy’n bosib ac wedyn mynd lawr i Lundain a dinasoedd Lloegr,” meddai Liz Saville Roberts.
“Rydyn ni wedi bod yn gofyn, ac mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru’n gofyn, am ddatblygu gwell dolennau cludiant rhwng y de a’r gogledd ac i edrych ymhellach, felly, ar ailagor y cysylltiad rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.
“Mae gen i yn fy etholaeth i, hefyd, y cysylltiad rhwng Afonwen a fyny i Gaernarfon a Bangor.
“Mae hi yn bosib i chi deithio ar hyd Cymru o’r de i’r gogledd gan ddefnyddio’r trên yng ngogledd Cymru ond mae rhan o hynny’n ddibynnol ar ddefnyddio trên stêm yn cysylltu o Borthmadog ar hyd Rheilffordd Ffestiniog i Flaenau Ffestiniog ac wedyn i lein Dyffryn Conwy… sy’n eithaf eironig dw i’n meddwl yn yr oes rydyn ni’n trio symud i ffwrdd o’r wrth danwydd ffosil.”
HS2
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd siâp HS2 ei newid ac ni fydd y rheilffordd yn cynnwys y fraich ddwyreiniol i Leeds mwyach.
Mae rhai wedi awgrymu y dylid newid siâp y rheilffordd, sy’n cael ei ystyried fel prosiect i Gymru a Lloegr, er na fydd cledrau yng Nghymru.
O’r herwydd, ni fydd Cymru’n derbyn arian dan Fformiwla Barnett ar gyfer y prosiect, yn wahanol i’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Fodd bynnag, mae asesiad gan Lywodraeth San Steffan yn nodi y byddai adeiladu HS2 a’i effeithiau ar economi Cymru a Lloegr yn golygu na fyddai de Cymru’n elwa o gwbl, ac y byddai’n achosi niwed gwerth £200 miliwn i economi’r de bob blwyddyn, esboniodd Liz Saville Roberts.
“Wrth gwrs, mae Llywodraeth San Steffan yn sôn bod yna fantais i ogledd Cymru, oherwydd bod y teithiau yn gynt,” meddai.
“Ond mae’r un asesiad yn amcangyfrif mantais o £50 miliwn i ogledd ddwyrain Cymru, felly mae yna golled sylweddol i’r de a ryw ychydig o ennill i’r gogledd… ond wrth gwrs fedrwch chi weld eu bod nhw ddim yn balansio ei gilydd allan.”
Mae’r felin drafod trafnidiaeth Greengauge21, a’r Athro Mark Barry o Ysgol Ddaearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, wedi awgrymu y dylid newid siâp y rheilffordd fel bod braich yn ymestyn o Firmingham i Fryste – gyda chysylltiadau ymlaen i Gaerdydd wedyn – yn ôl y New Civil Engineer.
Yn ôl Liz Saville Roberts, dydi hi ddim yn debygol y bydd newidiadau pellach.
“Os ydyn ni’n edrych ar y cwestiwn o newid llwybr HS2, be mae rhywun yn ei weld ydi bod y Llywodraeth Geidwadol wedi cael y ffasiwn drafferth i adnabod y llwybrau, yr hynt mae’n ei ddilyn ar hyn o bryd.
“Maen nhw newydd dynnu un fraich oedd yn mynd i ddwyrain gogledd Lloegr, mae’r cwestiwn o symud neu newid y llwybr – dw i ddim yn meddwl bod hynny’n debyg o ddigwydd o gwbl.
“Petai a phetasai ydi o – ond dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd. Rydyn ni’n gwybod pa fantais a pha anfantais, yn bennaf, sydd i Gymru o’r potensial economaidd mae’r Ceidwadwyr yn sôn amdano fo.
“A does yna ddim byd i ni.”
Trydaneiddio a threnau hydrogen
Ychwanegodd Liz Saville Roberts bod ganddi ddiddordeb yn y math o drenau sydd, neu fydd, yn cael eu defnyddio yng Nghymru, gan ddweud bod cwestiynau’n codi am drenau dîsel Cymru.
“Yn sicr, ac rydyn ni wedi cael addewidion gan y Llywodraeth yma hefyd, mae’n rhaid i ni weld trydaneiddio’n digwydd,” meddai.
“Mae gennym ni’r hen drêns sy’n ddibynnol yng Nghymru yn gyfan gwbl ar danwydd ffosil, felly i weld trydaneiddio’n digwydd i Abertawe yn ne Cymru, ac, wrth gwrs, i ni drydaneiddio’r brif reilffordd ar hyd gogledd Cymru’n ogystal.
“Os ydyn ni’n trydaneiddio’r de a’r gogledd – gwych. Ond mae yna gwestiynau am be rydyn ni’n mynd i’w wneud efo’r trêns disel sydd gennym ni yng ngweddill Cymru, ac mae hwnna’n rhywbeth y byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gweld a oes yna systemau Metro eraill yn y Deyrnas Unedig sydd ella’n ystyried defnyddio trêns hydrogen.
“Dw i’n deall bod Birmingham, yr ardal Birmingham West Midlands, yn ystyried gwneud hynny ar hyn o bryd.
“Ac efallai, efallai, efallai bod yna botensial i ni yng Nghymru petae gennym ni gyflenwad o hydrogen i’r dyfodol.”