Mae gwasanaethau rheilffordd Cymru wedi cael eu disgrifio fel y rhai gwaethaf ym Mhrydain mewn arolwg diweddar.

Fe wnaeth 22% o’r trigolion o Gymru wnaeth ymateb i’r arolwg gan YouGov ddweud eu bod nhw’n credu bod darpariaeth rheilffyrdd yn eu hardal nhw’n wael.

Dywedodd 11% o ymatebwyr Cymreig nad oedd ganddyn nhw unrhyw wasanaeth trên lleol, tra bod 22% yn tybio bod gwasanaethau lleol yn dda.

Roedd yr arolwg wedi holi 55,000 o oedolion ledled Prydain – gyda chyfraddau bodlonrwydd isel yn yr Alban, lle’r oedd 19% yn meddwl bod gwasanaethau’n wael, Swydd Efrog a’r Humber (18%), a Gogledd Orllewin Lloegr (18%).

Canlyniadau Cymru ‘ddim yn syndod’

Yr Aelod o’r Senedd Ceidwadol, Natasha Asghar, yw Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Trafnidiaeth.

Roedd hi’n credu bod canlyniadau’r arolwg yn dyst i ddiffyg gwelliannau yng ngwasanaethau trenau Cymru ers i Drafnidiaeth Cymru gael ei sefydlu.

“Yn anffodus, dydy canlyniadau’r arolwg barn hwn gan YouGov ddim yn syndod i bobl sy’n byw yng Nghymru,” meddai.

“Mae Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, wedi methu’n gyson â mynd i’r afael â phroblem gorlenwi ar drenau Cymru, sy’n digwydd yn fwy aml.

“Fel Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar gyfer Trafnidiaeth, rwyf wedi galw’n rheolaidd am roi mwy o gerbydau ar drenau, ac am gamau i fynd i’r afael â’r oedi a’r canslo rheolaidd i wasanaethau, sy’n achosi dicter a rhwystredigaeth i deithwyr.

“Mae’n amlwg nad oes unrhyw beth wedi gwella ers i Lywodraeth Cymru gymryd rheolaeth o reilffyrdd, er iddyn nhw ddweud y bydden nhw’n amddiffyn gwasanaethau ac yn cyflawni gwelliannau i seilwaith, sy’n siom fawr i mi a theithwyr ledled Cymru.”

Anniddigrwydd

Does dim bwriad adeiladu’r un filltir o reilffordd HS2 yng Nghymru na’r Alban, er bod anniddigrwydd ynglŷn â gwasanaethau rheilffordd yn y ddwy wlad, yn ogystal â gogledd Lloegr.

Llundain yw’r rhanbarth sydd fwyaf hapus â’u gwasanaethau, gyda dim ond 10% yn eu galw’n wael.

‘Angen buddsoddiad i sicrhau bod rheilffyrdd Cymru’n gallu gwrthsefyll llifogydd’

Cadi Dafydd

Liz Saville Roberts yn dweud ei bod hi’n “bryderus” am effaith posib llifogydd ar drafnidiaeth wrth drafod HS2 a chytundeb Llafur a Phlaid Cymru