Gall trais yn erbyn menywod a merched arwain at effeithiau sylweddol megis problemau iechyd meddwl, diffyg ymddiriedaeth, neu geisio cyflawni hunanladdiad, yn ôl dadansoddiad newydd.

Yn ôl ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae ystod y troseddau, a pha mor aml maen nhw’n digwydd, yn golygu bod nifer o fenywod yn byw gyda’r ôl-effeithiau, rhai ohonyn nhw’n effeithiau hirdymor.

Mae “trais yn erbyn menywod a merched” yn cyfeirio at nifer o droseddau megis cam-drin neu lofruddiaethau domestig, aflonyddu, ymosodiadau rhywiol, a chamdriniaeth fel plentyn.

Er bod dynion a bechgyn yn dioddef yn sgil y mathau hyn o droseddau, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn nodi eu bod nhw’n effeithio menywod yn anghymesur.

Ystadegau

Yn y flwyddyn hyd at Mawrth 2020, dangosodd Arolwg Trosedd Cymru a Lloegr bod 1.6 miliwn menyw rhwng 16 a 74 oed wedi dioddef cam-drin domestig (tua 7% o boblogaeth fenywaidd y ddwy wlad).

Yn ôl yr amcangyfrifon, roedd 3% o fenywod rhwng 16 a 74 oed wedi dioddef ymosodiadau rhywiol (neu ymgeision), a 5% wedi dioddef stelcian.

Yn y flwyddyn hyd at mis Mawrth 2020, dangosodd data’r heddlu bod bron i hanner (46%) o’r menywod gafodd eu lladd yng Nghymru a Lloegr (81 dynes) wedi marw mewn lladdiadau trais domestig.

Ynghyd â hynny, mae’r ystadegau yn awgrymu bod tua 5.1 miliwn dynes rhwng 18 a 74 oed wedi cael eu cam-drin fel plant yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod 1 ymhob 3 menyw dros 16 oed yng ngwledydd Prydain wedi dioddef o leiaf un math o aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r ganran yn cynyddu i 2 ymhob 3 ymysg merched rhwng 16 a 34 oed.

Effeithiau trais

Mae’r dadansoddiad newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, y cyntaf o’i fath, yn dangos bod 63% o’r menywod gafodd eu treisio ar ôl iddyn nhw droi’n 16 oed yn y blynyddoedd rhwng mis Mawrth 2017 a Mawrth 2020 yn dweud bod ganddyn nhw broblemau meddyliol neu emosiynol.

Dywedodd 10% eu bod nhw wedi trïo rhoi terfyn ar eu bywydau o ganlyniad i hynny, a dywedodd 21% eu bod nhw wedi cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.

Fe wnaeth 5% golli eu swyddi, neu roi’r gorau i weithio.

Dywedodd 50% o’r dioddefwyr eu bod nhw wedi stopio ymddiried mewn eraill neu’n cael trafferthion mewn perthnasau, a dywedodd 29% eu bod nhw wedi stopio mynd allan mor aml.

Teimlo’n anniogel

Dangosodd yr ymchwil hefyd bod menywod sydd wedi dioddef aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf yn fwy tebygol o beidio teimlo’n ddiogel ar ôl iddi dywyllu.

Dywedodd 89% o fenywod a ddioddefodd aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf nad ydyn nhw’n teimlo’n sâff mewn parc neu leoliad agored arall ar ôl iddi dywyllu.

O ran menywod na ddioddefodd aflonyddu yn y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd 78% eu bod nhw’n teimlo’n anniogel mewn parciau neu leoliadau agored eraill.

Dywedodd 59% o’r rhai a ddioddefodd aflonyddu nad ydyn nhw’n teimlo’n sâff mewn llefydd prysur, cyhoeddus, gyda 63% ddim yn teimlo’n ddiogel ar stryd dawel yn agos i’w cartref.

O gymharu, mae 45% o fenywod na ddioddefodd aflonyddu yn teimlo’n anniogel mewn llefydd prysur, a dywedodd 43% eu bod nhw’n teimlo’n anniogel ar stryd ger eu cartref wedi iddi nosi.

Yn ddiweddar, dywedodd un ymgyrchydd wth golwg360 ei bod hi wedi clywed gan “gannoedd” o ferched yn sôn am eu profiadau’n gorfod cerdded adre’n hwyr, a’r pryder mae hynny wedi’i achosi iddyn nhw.

“Effaith sylweddol a hirhoedlog”

Dywedodd pennaeth troseddau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, Meghan Elkin: “Drwy weithio dros lywodraethau a chydag elusennau, rydyn i wedi gallu dod â ffynonellau data ynghyd i amlygu graddfa ac effaith trais yn erbyn menywod a merched.

“Mae ein hymchwil yn dangos bod effaith y troseddau hyn ar fenywod a merched yn sylweddol, ac yn aml yn hirhoedlog.

“Mae hi’n broblem sydd ddim yn diflannu, yn anffodus.

“Mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai profiadau o gam-drin domestig fod wedi gwaethygu yn ystod cyfnodau clo cenedlaethol wrth i ddioddefwyr wynebu trafferthion, o bosib, wrth chwilio am gefnogaeth yn ddiogel dan yr amodau hynny.”

‘Straeon am orfod cerdded adre yn hwyr yn nos yn sgil diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn amlygu’r broblem’

Cadi Dafydd

Ers gwneud galwadau i ailgyflwyno’r Tube nos yn Llundain, mae “cannoedd” o ferched wedi cysylltu â Mared Parry yn rhannu eu straeon