Mae data newydd yn dangos bod dros 2,000 o bobol a wnaeth ddal Covid yn ysbytai Cymru, mae’n debyg, wedi marw o fewn mis.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r ystadegau hyn yn dangos “bylchau yng nghryfder ymateb y Llywodraeth Lafur i’r pandemig”.

Dangosa data swyddogol bod 8,243 o bobol yn sicr neu’n debygol o fod wedi dal Covid yn ysbytai Cymru, ar ôl cael eu derbyn am resymau gwahanol.

Yn ôl data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a welwyd gan BBC Cymru, bu farw 27% ohonyn nhw o fewn 28 diwrnod – ond nid o reidrwydd oherwydd Covid-19.

Mae’r data yn cynnwys marwolaethau o ganlyniad i bob achos, felly nid yw hi’n bosib dweud a wnaeth y 27% farw yn sgil Covid.

Rhwng dechrau’r pandemig a 1 Mai 2021, fe wnaeth bron i chwarter y rhai sydd wedi marw gyda Covid-19 yng Nghymru ddal yr haint yn yr ysbyty.

“Dangos bylchau”

Wrth ymateb i’r ystadegau diweddaraf, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS: “Mae [hyn] yn achos tristwch mawr i deuluoedd sy’n galaru ac yn dangos bylchau yng nghryfder ymateb y Llywodraeth Lafur i’r pandemig.

“Mae’n debyg bod hyn wedi cael ei waethygu gan nad oedd, fel y cyfaddefodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol,  staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu profi’n rheolaidd am Covid mewn rhai ysbytai yng Nghymru nes tua diwedd yr ail don.

“Mae hwn yn fater arall ar y rhestr hir o resymau pam ein bod ni angen ymchwiliad Covid penodol i Gymru, a fydd yn rhoi atebion i anwyliaid y rhai sydd wedi dioddef neu farw o ganlyniad i’r feirws a’r cyfnodau clo – rhywbeth mae’r Llywodraeth Lafur yn ei atal.”

“Gweithio’n galed”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, bod y Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn “gweithio’n galed i sicrhau bod pobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn cael eu hamddiffyn rhag Covid-19”.

“Mae’r Coronafeirws yn firws trosglwyddadwy iawn, yn enwedig mewn lleoliadau caeedig fel ysbytai,” meddai’r llefarydd.

“Cymru yw’r unig ran o’r Deyrnas Unedig sy’n casglu a chofnodi pob achos o heintiau mewn ysbytai – gan ddefnyddio system o’r enw ICNET.

“Mae ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi gweithio’n galed i sicrhau bod pobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn cael eu hamddiffyn rhag Covid-19, ond er gwaethaf cyflwyno mesurau rheoli heintiau cadarn iawn a threfn brofi lym, yn anffodus nid yw hyn wedi atal rhai pobl rhag dal Covid-19 tra yn yr ysbyty ac, yn anffodus iawn, mae rhai wedi marw.

“Mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru wedi dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau’r DU sydd wedi’u diweddaru’n rheolaidd wrth inni ddysgu mwy am y coronafeirws a sut mae’n lledaenu, gan gynnwys sut y gall pobl ledaenu’r feirws heb ddangos unrhyw symptomau.

“Mae canllawiau hefyd wedi’u rhoi i’r Gwasanaeth Iechyd ac maent yn cael eu diweddaru’n rheolaidd am gadw pellter cymdeithasol, bylchau rhwng gwelyau, profi staff a chleifion a gwisgo masgiau. Cynhaliwyd nifer o wiriadau gan fyrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

“Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn parhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion â Covid-19 yn ogystal â’r rhai sydd angen cael mynediad at wasanaethau hanfodol eraill. Mae byrddau iechyd wedi creu ardaloedd ar wahân mewn ysbytai i helpu i warchod cleifion a staff ac i sicrhau bod yr amgylchedd mor ddiogel â phosibl.”

Ymchwiliad

Wrth ymateb i alwad y Ceidwadwyr am ymchwiliad Covid penodol i Gymru, mynnodd llefarydd Llywodraeth Cymru fod gan ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig “y gallu a’r grym i oruchwylio natur gydgysylltiedig llawer o’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud ar draws y pedair gwlad”.

“Mae Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig,” ychwanegodd y llefarydd, “yn nodi’r materion penodol niferus y mae’n rhaid i’r ymchwiliad ganolbwyntio arnynt i ymdrin yn gynhwysfawr â gweithredoedd Llywodraeth Cymru. Rydym yn aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhau’r amserlen.”

“Syfrdanol” na chafodd rhai o staff y Gwasanaeth Iechyd eu profi’n rheolaidd yn ystod ail don Covid

Nid oedd gweithwyr rheng flaen mewn rhai ysbytai yng Nghymru yn cael eu profi’n gyson nes diwedd Mawrth 2021, yn ôl ymchwil BBC Wales Live