Dylai sgyrsiau ynghylch trais yn erbyn menywod ganolbwyntio ar y troseddwr, yn hytrach nag ymddygiad y dioddefwyr, meddai Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.

Ar Ddiwrnod y Rhuban Gwyn heddiw (dydd Iau, Tachwedd 25), dywedodd Jane Hutt bod trais gan ddynion ac anghydraddoldebau rhyw wedi effeithio ar fywydau menywod yn gyson ac eang “ers rhy hir o lawer”.

Mae heddiw’n nodi dechrau 16 diwrnod o weithredu gyda’r nod o roi terfyn ar drais yn erbyn menywod.

Fel rhan o hynny, mae angen gofyn i ddynion a bechgyn herio ymddygiad camdriniol a rhywiaethol ymhlith eu ffrindiau, eu cydweithwyr, a’u cymunedau, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae ymchwil newydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod effeithiau trais yn erbyn menywod yn “sylweddol” a “hirhoedlog”, ac yn cynnwys problemau iechyd meddwl a cheisio cyflawni hunanladdiad.

‘Herio ymddygiad amhriodol’

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymru, ei bod hi’n “anfon neges glir nad oes cyfrifoldeb ar fenywod i newid eu hymddygiad, y rhai sy’n cam-drin ddylai newid eu hymddygiad”.

“Mae trais gan ddynion ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi effeithio ar fywydau menywod mewn modd cyson ac eang ers rhy hir o lawer,” meddai’r Gweinidog.

“Nod Diwrnod y Rhuban Gwyn a’r 16 diwrnod o weithredu yw grymuso dynion a bechgyn i herio ymddygiadau amhriodol, pan fo’n ddiogel i wneud hynny, a chynnig cymorth.

“Mae angen gweithredu ar y ddwy ochr er mwyn mynd i’r afael â thrais gan ddynion, anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a chasineb at fenywod; rhaid i ni gefnogi goroeswyr a dwyn cyflawnwyr i gyfrif, ond rhaid i ni hefyd sicrhau newid gwirioneddol mewn ymddygiad.

“Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ni sicrhau diwylliant o gydraddoldeb a pharch mewn gwirionedd – rhywbeth y mae angen i bob un ohonon ni ei feithrin er mwyn gwneud yn siŵr bod modd i bob unigolyn fyw heb ofn.”

‘Codi llais’

Ychwanegodd Huw David, sy’n gynghorydd ar Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ac yn Llywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fod “pob math o drais yn erbyn menywod yn parhau’n bla erchyll yn ein cymunedau”.

“Mae’n ffaith syfrdanol bod dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner neu gyn-bartner, a bod 10,000 o fenywod yn cael eu cam-drin yn rhywiol bob wythnos yng Nghymru a Lloegr,” meddai Huw David.

“Rhaid i bob un ohonon ni barhau i wneud popeth o fewn ein gallu i roi terfyn ar yr ymddygiadau ffiaidd hyn. Mae’r sector llywodraeth leol wedi ymrwymo’n llwyr i weithio tuag at wireddu’r uchelgais hwn.

“Bob blwyddyn, mae Diwrnod Rhyngwladol Diddymu Trais yn erbyn Menywod yn rhoi cyfle i bob un ohonon ni ystyried y ffordd yr ydyn ni’n ymddwyn.

“Does dim esgus yn y byd dros gyfiawnhau unrhyw drais neu gamdriniaeth o’r fath.

“Rwy’n annog pawb ym mhob un o’n cymunedau i ddangos eu cefnogaeth drwy dyngu Llw y Rhuban Gwyn i beidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, na gwneud esgus am drais gan ddynion yn erbyn menywod, na chadw’n ddistaw amdano.

“Gallwn ni sefyll gyda’n gilydd a chodi’n llais, i ddangos nad oes lle yn ein cymdeithas i ymddygiadau ffiaidd o’r fath.”

Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y ffordd y gall Cymru gryfhau ei Strategaeth Genedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Domestig ar gyfer y pum mlynedd nesaf ar Ragfyr 7.

Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar drais yn erbyn menywod ar strydoedd Cymru, mewn gweithleoedd, ac yn y cartref, gyda’r nod o sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.

Gall trais yn erbyn menywod arwain at effeithiau “sylweddol” a “hirhoedlog”, yn ôl dadansoddiad

Rhai o effeithiau trais yn erbyn menywod yn cynnwys problemau iechyd meddwl, diffyg ymddiriedaeth, teimlo’n anniogel, a cheisio cyflawni hunanladdiad