Bydd yr Urdd yn cynnal y “parti pen-blwydd mwyaf” yn hanes y mudiad ac yn ymgeisio am ddwy record byd fel rhan o’u dathliadau canmlwyddiant.

Union ddeufis cyn i’r mudiad droi’n 100 oed ar Ionawr 25, mae Urdd Gobaith Cymru wedi cyhoeddi rhai o’r cynlluniau ar gyfer nodi’r canmlwyddiant flwyddyn nesaf.

Bydd y dathliadau’n dechrau gyda’r Parti Pen-blwydd ar ddiwrnod ‘Cariad@Urdd’.

Bryd hynny, bydd yr Urdd a’r genedl yn ymgeisio am ddau deitl Guiness World Records drwy gyd-ganu ac uwchlwytho fideos o’r gân ‘Hei Mistar Urdd’ i Twitter a Facebook.

Fe fydd parti arbennig ar gyfer ysgolion Cymru’n cael ei ddarlledu’n fyw ar BBC Radio Cymru a Radio Wales yng nghwmni cyflwynwyr Stwnsh Sadwrn.

Mae rhai o uchafbwyntiau eraill 2022 yn cynnwys teithiau rhyngwladol i bobol ifanc i America, Iwerddon a Norwy, a chynlluniau arbennig ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r canmlwyddiant.

Bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn arwain Gŵyl Gemau Trefol Cymru ym Mae Caerdydd, lle bydd chwaraeon Olympaidd newydd megis BMX a sglefr fyrddio, ac yn arwain Cynhadledd Chwaraeon Ieuenctid Benywaidd cyntaf Cymru.

Fe fydd Cyngerdd Dathlu Canmlwyddiant yr Urdd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn cael ei chynnal, ac mae S4C wedi comisiynu cyfres sy’n mynd yn ôl i Langrannog drwy’r degawdau.

‘Parti mwyaf ein hanes’

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, nad oes dwywaith “fod y cyfnod ers mis Mawrth 2020 wedi bod y cyfnod mwyaf heriol yn ein hanes”.

“O ganlyniad i bandemig Covid-19, bu’n rhaid cau ein gwersylloedd a daeth ein gweithgareddau cymunedol, chwaraeon a chelfyddydol arferol i stop.

“Ond, rydym yn ail-adeiladu, ac mi fydd blwyddyn ein canmlwyddiant yn flwyddyn i’w chofio, gyda chynlluniau pob adran yn adlewyrchiad o’n hysbryd a’n huchelgais.

“Rydym hefyd yn buddsoddi yn sylweddol yn ein gwersylloedd a bydd tri agoriad cyffrous yn 2022; agoriad y Gwersyll amgylcheddol cyntaf o’i fath yng Nghymru ym Mhentre Ifan, Sir Benfro; agoriad Calon y Gwersyll yn Llangrannog ac agoriad Canolfan Ddŵr newydd yng Nglan-llyn.

“Galwaf ar holl ysgolion Cymru, aelwydydd, gwirfoddolwyr, busnesau a mudiadau, ac aelodau hen a newydd i ymuno ym mharti mwyaf ein hanes!

“Mae hwn yn gyfle i chi ddathlu ac yn gyfle i ni ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan fach neu fawr i wneud yr Urdd yn fudiad allweddol bwysig i Gymru a’r Cymry.

“Cofrestrwch i fod yn rhan o’r parti a’r ymgais am ddau deitl Guinness World Records™ ddeufis i heddiw, ac i weld enw eich ysgol, aelwyd neu sefydliad ar fap o Gymru ar ein gwefan, a rhannwch eich bod wedi ymuno gan ddefnyddio #Urdd100.”

‘Cyfoethogi bywydau’

I gyd-fynd â’r cyhoeddiad ynghylch y cynlluniau ac Wythnos Archwiliwch Eich Archif, mae cartref archif yr Urdd, y Llyfrgell Genedlaethol, wedi croesawu Mistar Urdd i ymweld â’r ar archif.

Yn ogystal â dathlu’r wythnos gyda Mistar Urdd yr wythnos hon, bydd y Llyfrgell yn cynnal nifer o ddigwyddiadau i nodi blwyddyn arbennig yr Urdd, gan gynnwys arddangosfeydd a gweithdai.

“Mae’r Urdd yn parhau i fod yn fudiad cenedlaethol anhepgorol sy’n dal i gyfoethogi bywydau plant a phobl ifanc a hyrwyddo’r Gymraeg yr un pryd, a hynny canmlynedd ers iddo gael ei sefydlu,” meddai Pedr ap Llwyd, prif weithredwr a llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

“Ni ellid mesur maint cyfraniad y mudiad i’n bywyd cenedlaethol a braf yw medru dweud fod llawer o waith y mudiad wedi’i gofnodi yma yng nghasgliadau’r Llyfrgell, mewn archif, llyfrau, sain a delweddau symudol.

“Mae’r cyfan yn brawf o weithgaredd mudiad y dylem ni i gyd fod mor falch ohono. Braint o’r mwyaf ydy cael bod yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant yr Urdd a chael cwrdd â Mistar Urdd ei hun, un o’m harwyr i!”

Yn ogystal â mynychu’r Parti Pen-blwydd, mae’r Urdd yn gwahodd partneriaid, busnesau, ysgolion a mudiadau ledled Cymru i nodi’r canmlwyddiant drwy chwifio baner yr Urdd ar Ionawr 25.

Mae’r Senedd, Sain Ffagan, y Big Pit, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ymysg nifer o adeiladau ledled Cymru wedi ymrwymo i chwifio baner eisoes.