Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Plaid Cymru o fradychu ffermwyr Cymru drwy ollwng eu gwrthwynebiad i reoliadau dŵr Llywodraeth Cymru, a’r Parthau Perygl Nitradau (NVZs).

Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn nodi y caiff Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021 eu gweithredu.

A dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fel y mae’r Cytundeb Cydweithio yn nodi, gan weithio gyda’r gymuned ffermio, byddwn yn gweithredu Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021 i wella ansawdd dŵr ac ansawdd aer, gan dargedu’r gweithgareddau hynny yr ydym yn gwybod eu bod yn achosi llygredd.”

Mae Ceidwadwyr y Senedd wedi ailadrodd eu gwrthwynebiad i’r Parthau Perygl Nitradau, gan eu disgrifio fel defnyddio “mwrthwl i gracio cneuen”.

Maen nhw hefyd o’r farn y bydd y rheoliadau’n gweld rheolau newydd beichus yn cael eu gosod ledled y wlad.

Yn ôl ym mis Gorffennaf, llwyddodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (yr NFU) yn eu hymgyrch i gael adolygiad barnwrol o’r rheoliadau.

“Taflu ffermwyr Cymru o dan y tractor”

Dywedodd Samuel Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar faterion gwledig: “Mae clymblaid [sic] Plaid Cymru gyda Llafur wedi eu gweld yn taflu ffermwyr Cymru o dan y tractor.

“Nid yw’r glymblaid [sic] hon yn gwneud dim i’r Gymru wledig, gan ganolbwyntio ar Gymru drefol yn unig, ac mae’n dangos bod Plaid yn cymryd eu pleidlais yn ganiataol.

“Er bod Aelodau Plaid yn cynrychioli ardaloedd hynod wledig, gyda llawer o ffermwyr yn etholwyr, nid oeddwn yn disgwyl iddynt fanteisio ar y cyfle cyntaf a gyflwynwyd iddynt i wfftio pryderon ffermwyr Cymru a’r diwydiant yn llwyr – yn enwedig o ystyried pwysigrwydd economaidd amaethyddiaeth.

“Gyda methiannau Llafur ar TB mewn gwartheg a thro pedol Plaid ar ei gwrthwynebiad NVZ, nid yw’r gymuned amaethyddol yn gweld unrhyw gefnogaeth gan y rhai sydd mewn grym yng Nghymru.

“Mae angen ffrind ar ffermwyr, ac yn sicr nid ydynt yn cael hynny gan y Llywodraeth Lafur a’u partneriaid clymbleidiol.

“Er bod y cenedlaetholwyr mor hawdd eu prynu, gall ffermwyr fod yn dawel eu meddwl na fydd y Ceidwadwyr Cymreig byth yn troi eu cefnau arnyn nhw.”

“Dim llai na rhagrith”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros amaethyddiaeth a materion gwledig, Cefin Campbell AoS, fod “cyhuddo Plaid Cymru o fradychu ffermwyr Cymru fis yn unig ar ôl i’r Torïaid yn San Steffan dorri cyllideb amaethyddiaeth Cymru o £37 miliwn yn ddim llai na rhagrith”.

“Mae’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llafur wedi sicrhau llawer o gonsesiynau allweddol a fydd o fudd i sector amaeth Cymru,” meddai.

“Yn benodol, mae Plaid wedi brwydro’n galed i sicrhau bargen dda i ffermwyr Cymru – gan sicrhau ymrwymiadau i gynnal taliadau sefydlog, cryfhau caffael lleol, a sicrhau mwy o bwyslais ar reolaeth leol a pherchnogaeth ar greu coetir.

“Er bod y cytundeb yn ymgorffori defnyddio Rheoliadau Adnoddau Dŵr 2021, mae’n hollbwysig sicrhau dull wedi’i dargedu at y gweithgareddau hynny y gwyddys eu bod yn achosi llygredd.

“Yn gynharach eleni, arweiniodd Plaid Cymru ar sicrhau penderfyniad unfrydol yn y Senedd i adolygu mesurau Parthau Bregus Nitrad (NVZ) – proses a ddirprwywyd ar hyn o bryd i’r Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig.

“Rwyf hefyd yn ymwybodol bod adolygiad barnwrol parhaus yn cael ei gynnal o’r rheoliadau ar gais yr NFU. Edrychaf ymlaen at ganlyniadau’r Pwyllgor a’r adolygiad barnwrol, a disgwyliaf i Lywodraeth Cymru ystyried y casgliadau yn llawn cyn gweithredu unrhyw reoliadau gwrth-lygredd.”