Fe fydd arbenigwyr blaenllaw yn dod ynghyd yng Nghanolfan Gynadledd Genedlaethol Cymru heddiw (dydd Iau, Tachwedd 25) ar gyfer cynhadledd ac arddangosfa fydd yn trafod dyfodol y diwydiant ynni adnewyddadwy.

Mae’r digwyddiad wedi’i noddi gan RWE, ac fe fydd yn dod ag arbenigwyr ac academyddion ynghyd i adolygu sut mae Cymru’n symud tuag at fod yn wlad sero-net.

Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fydd yn traddodi’r brif araith wleidyddol, gan rannu ei brofiadau o fod yn uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow a’i pherthnasedd i Gymru, a chynnig blas ar rai o’r materion sy’n cael sylw fel rhan o’i adolygiad i’r rhwystrau i ynni adnewyddadwy.

Sesiynau

Yn ymuno â Lee Waters yn y sesiwn fydd Tom Glover, Cadeirydd Gwlad y Deyrnas Unedig RWE, sef prif noddwyr y digywddiad; Dr Christina Demski o Brifysgol Caerdydd; a Helen Westhead o Arup.

Bydd yr ail sesiwn yn canolbwyntio ar isadeiledd ynni ar gyfer sero-net, ac mae wedi’i noddi gan yr ymgynghorwyr cynllunio LUC. Cynrychiolwyr o LUC, Prifysgol Caerdydd, ITPEnergised ac Ofgem fydd yn trafod sut rydym yn cydbwyso’r angen am ddiweddaru ein hisadeiledd ynni gyda phobol a’r amgylchedd.

Yn y sesiwn olaf, bydd trafodaeth ar sut mae Cymru’n gosod ei hun fel gwlad sy’n ddeniadol ar ôl Brexit a’r pandemig ar gyfer buddsoddiad mewn ynni. Ymhlith y siaradwyr fydd cynrychiolwyr o Ripple Energy, Porthladd Aberdaugleddau, a chwmni Blue Gem Floating Wind and Industry Cymru.

‘Gwireddu uchelgais’

“Fel cynhyrchwyr ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru, mae RWE yn chwarae rôl flaenllaw wrth helpu’r wlad i wireddu ei huchelgais sero-net,” meddai Tom Glover.

“Bydd y dechnoleg werdd rydym yn buddsoddi ynddi’n cefnogi swyddi newydd ar gyfer sgiliau uchel, yn creu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi, ac yn helpu cymunedau ledled y wlad i elwa.

“Fel diwydiant, rhaid i ni barhau i ateb her sero-net a pharhau i wthio i ddarganfod ffyrdd o gynhyrchu ynni glannach a rhatach.

“Rwy’n edrych ymlaen at gyfarfod â’m cydweithwyr yn y diwydiant yn Future Energy Wales i siarad am yr hyn y gallwn ni ei wneud i barhau i godi’r bar.”

‘Croesffordd’

“Rwyf wrth fy modd o allu croesawu cynadleddwyr yn ôl wyneb yn wyneb ar gyfer y gynhadledd hon,” meddai Rhys Wyn Jones, Cyfarwyddwr RenewableUK Cymru.

“Mae’r diwydiant yng Nghymru wrth groesffordd – ac mae angen i ni symud ar gyflymdra a chyflwyno cynllun ar gyfer Cymru i harneisio’r buddion economaidd mae ynni adnewyddadwy cost isel, carbon sero yn eu cynnig.”