Bydd rhaid i o leiaf 25% o wersi mewn ysgolion yng Nghatalwnia fod trwy gyfrwng y Sbaeneg yn dilyn dyfarniad yng Ngoruchaf Lys Catalwnia.

Mae’r dyfarniad wedi gwrthod apeliadau i gadw at barhau â’r drefn o ddysgu’n gyfangwbl drwy gyfrwng yr iaith Gatalan.

Yn ôl Josep González-Cambray, Gweinidog Addysg Catalwnia, mae’r dyfarniad yn “ymosodiad newydd gan y barnwyr ar system addysg Catalwnia”.

Daw ei sylwadau wrth iddo ymddangos ar y teledu ochr yn ochr â’r Gweinidog Diwylliant Natalia Garriga, ac mae e wedi sicrhau ysgolion na fydd “unrhyw newid” i’r drefn yng Nghatalwnia er gwaetha’r dyfarniad llys.

“Rhaid i ganolfannau barhau i weithio fel yr oedden nhw o’r blaen, a does dim rhaid iddyn nhw wneud newidiadau,” meddai’n benderfynol, gan dynnu sylw at y ffaith mai penderfyniad un barnwr yw hyn a bod ganddo “ddirmyg” at bobol sy’n gweithio yn y byd addysg.

“Bydd yr ysgol yng Nghatalwnia drwy gyfrwng yr iaith Gatalan,” meddai.

Cefndir

Fe fu cyfrwng yr addysg yng Nghatalwnia’n bwnc llosg ers 2014, pan benderfynwyd y dylai 25% o wersi gael eu dysgu trwy gyfrwng y Sbaeneg.

Ar y pryd, roedd y dyfarniad ond yn berthnasol i wyth o ddisgyblion penodol, ond fod modd dilyn y rheol hon pe bai myfyrwyr yn gwneud cais i gael eu dysgu trwy gyfrwng y Sbaeneg yn hytrach na Chatalan.

Cyn y dyfarniad yn 2014, roedd y llysoedd yn annog y llywodraeth i gyflwyno rheol heb nodi unrhyw ganran benodol.

Fis Rhagfyr y llynedd, daeth dyfarniad arall fod rhaid dysgu o leiaf 25% o wersi trwy gyfrwng y Sbaeneg, ac fe apeliodd Llywodraeth Catalwnia cyn troi at y Goruchaf Lys.

Yn ôl Llywodraeth Catalwnia, dim ond 80 o deuluoedd sydd wedi gwneud cais am wersi trwy gyfrwng y Sbaeneg ers 2005, ac maen nhw’n gwadu bod y sefyllfa’n achosi gwrthdaro mewn ysgolion.

Mae 14% o ddisgyblion uwchradd a 35% o ddisgyblion cynradd yn siarad Catalan ar iard yr ysgol, yn ôl ymchwil.

Yn y brifddinas Barcelona, lle mae 25% o boblogaeth Catalwnia yn byw, mae 98% o’r boblogaeth yn siarad Sbaeneg a dim ond 50-60% yn siarad yr iaith frodorol.

Ymateb y llywodraethau

Mae Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, wedi disgrifio dyfarniad y Goruchaf Lys fel “ymosodiad difrifol iawn” ac fel arwydd o “ddiffyg parch at athrawon”.

Mae’n dweud na ddylid “cyffwrdd” y drefn bresennol gan ei bod yn “sicrhau cydlynu cymdeithasol a chyfle cyfartal” yng Nghatalwnia.

Dywedodd y byddai ysgolion yn dod o hyd i “bob ffordd bosib” o oresgyn y sefyllfa, a bod hynny’n “sylfaenol” i gynyddu’r iaith mewn ysgolion.

Mae ymgyrchwyr yn galw am beidio wfftio’r posibilrwydd o anufudd-dod fel modd o amddiffyn y drefn bresennol mewn ysgolion, ond mae Cymdeithas Sifil Catalwnia (Societat Civil Catalana) wedi croesawu’r dyfarniad llys gan ddweud ei fod yn “fuddugoliaeth hanesyddol i gyfle cyfartal yn wyneb model adweithiol”.

Yn ôl Llywodraeth Sbaen, mae’n “rhaid gweithredu” dyfarniad y Goruchaf Lys, ond fydd y llywodraeth ddim yn mynnu bod hyn yn digwydd gan eu bod yn credu y dylai ysgolion gydweithredu ar eu liwt eu hunain.