Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn 31 oed a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Nghaerdydd.

Bu farw Jordan Cody-Foster, oedd yn dad, yn dilyn ymosodiad ar Stryd Hansen yn Nhrebiwt ddydd Mawrth (Tachwedd 23).

Dywed ei deulu eu bod nhw’n “galaru ac yn drist”, ond maen nhw’n galw am bwyll gan ei ffrindiau ac yn eu hannog nhw i beidio â gweithredu ar eu liwt eu hunain.

Bydd Steven White, dyn 44 oed a gafodd ei arestio yn ardal Sblot, yn mynd gerbron ynadon heddiw (dydd Iau, Tachwedd 25), wedi’i gyhuddo o lofruddio.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu.

 

Dyn 31 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd

Dyn 44 oed wedi cael ei arestio yn ardal Sblot ar amheuaeth o lofruddio