Mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn galw ar Ffrainc i gytuno i gynnal patrolau ar y cyd ar hyd y Sianel.
Daw hyn ar ôl i gwch suddo, gyda dwsinau o bobol yn colli eu bywydau.
Dywed awdurdod morol rhanbarthol Ffrainc fod 27 o bobol wedi marw. Roedd swyddogion Ffrainc wedi dweud o’r blaen fod 31 o farwolaethau, ond cafodd y ffigwr hwnnw ei addasu, heb esboniad am yr anghysondeb.
Siaradodd y prif weinidog â’r Arlywydd Emmanuel Macron neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 24) yn sgil y digwyddiad gwaethaf o’i fath yn y Sianel ers i’r argyfwng mudo presennol ddechrau.
Dywed Stryd Downing eu bod wedi cytuno i “gadw pob opsiwn ar y bwrdd” yn eu hymdrechion i fynd i’r afael â gangiau sy’n masnachu pobol.
Cynnig cymorth o’r newydd
Mae Tom Pursglove, y gweinidog cydymffurfio â mewnfudo, wedi cadarnhau bod Boris Johnson wedi ategu cynnig blaenorol i anfon swyddogion heddlu a Llu Ffiniau’r Deyrnas Unedig i gynnal patrolau ar y cyd â’r Ffrancwyr.
Ond mae Ffrainc wedi gwrthod hyn yn y gorffennol oherwydd gofidion am y goblygiadau i’w sofraniaeth genedlaethol.
Dywed Tom Pursglove, fodd bynnag, fod y digwyddiad diweddaraf yn dangos bod angen i’r ddwy wlad gydweithio’n agosach er mwyn mynd i’r afael â’r mater.
“Mae’r Prif Weinidog a’r Arlywydd Macron wedi cael yr union drafodaeth honno heno. Mae hynny’n rhywbeth rwy’n awyddus iawn i’w weld yn digwydd,” meddai wrth raglen Newsnight ar BBC2.
“Mae’n wir ein bod, yn y gorffennol, wedi cynnig cynnal a helpu gyda phatrolau ar y cyd.
“Credaf y gallai hynny fod yn amhrisiadwy wrth helpu i fynd i’r afael â’r mater hwn.
“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Ffrancwyr yn ailystyried y cynnig hwnnw.”
Pedwar wedi’u harestio
Mae awdurdodau Ffrainc wedi arestio pedwar o bobol mewn cysylltiad â’r digwyddiad tra bod yr erlynydd rhanbarthol wedi agor ymchwiliad i ddynladdiad.
Yn dilyn cyfarfod o bwyllgor argyfyngau Cobra, dywedodd Boris Johnson ei bod yn amlwg nad yw gweithrediadau Ffrainc i atal y cychod rhag gadael “wedi bod yn ddigon” er gwaethaf £54m o gefnogaeth gan y Deyrnas Unedig.
“Rydym wedi cael trafferth perswadio rhai o’n partneriaid, yn enwedig y Ffrancwyr, i weithredu yn y modd yr ydym yn credu y mae’r sefyllfa yn ei haeddu,” meddai.
“Rwy’n deall yr anawsterau y mae pob gwlad yn eu hwynebu, ond yr hyn yr ydym am ei wneud nawr yw gwneud mwy gyda’n gilydd – a dyna’r cynnig yr ydym yn ei wneud.”
Fodd bynnag, dywed Natacha Bouchart, Maer Calais, mai’r Prydeinwyr sydd ar fai, gan alw ar Boris Johnson i “wynebu ei gyfrifoldebau”.
“Llywodraeth Prydain sydd ar fai. Rwy’n credu bod Boris Johnson, dros y flwyddyn a hanner diwethaf, wedi dewis beio Ffrainc,” meddai, yn ôl adroddiadau’r cyfryngau yn Ffrainc.
‘Trychineb’
Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi dweud y bydd y Llywodraeth yn ceisio “cyflymu” mesurau yn y Mesur Dinasyddiaeth a Ffiniau er mwyn galluogi’r awdurdodau i “wahaniaethu rhwng pobol sy’n dod yma’n gyfreithlon a phobol sy’n dod yma’n anghyfreithlon”.
Ond dywed Enver Solomon, prif weithredwr y Cyngor Ffoaduriaid, y dylai’r digwyddiad orfodi’r Llywodraeth i ailystyried ei dull o weithredu.
“Siawns bod trychineb o’r maint hwn yn yr hyn sydd ei angen ar ein Llywodraeth i weld bod angen iddo newid ei strategaeth ac ymrwymo i ehangu llwybrau diogel i’r dynion, y menywod a’r plant hynny sydd angen eu hamddiffyn,” meddai.