Mae Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, yn cefnogi Diwrnod Hawliau Gofalwyr heddiw (dydd Iau, Tachwedd 25), gan ddweud eu bod nhw’n “haeddu gwell”.

Mae’r Aelod sy’n cynrychioli rhanbarth Dwyrain De Cymru yn cefnogi ymdrechion Gofalwyr Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr.

Daeth arolwg diweddar o bron i 6,000 o ofalwyr i’r casgliad bod 78% o ofalwyr di-dâl yn rhoi mwy o ofal i berthnasau erbyn hyn gan fod anghenion y rhai maen nhw’n gofalu amdanyn nhw wedi cynyddu yn ystod y pandemig.

Mae 67% yn poeni ynghylch sut y byddan nhw’n ymdopi pe bai rhagor o gyfyngiadau symud neu leol yn cael eu cyflwyno eto.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r sefyllfa a phryderon gofalwyr, mae Peredur Owen Griffiths wedi addo y bydd e a’i staff yn dod yn ymwybodol o ofalwyr (“Care Aware”), drwy fynd i sesiynau hyfforddi ar-lein Gofalwyr Cymru.

‘Llawer o waith heb ei weld’

“Mae gofalwyr yn chwarae rhan gynyddol bwysig mewn cymdeithas,” meddai Peredur Owen Griffiths.

“Mae llawer o’u gwaith heb ei weld a heb ei ganmol.

“Yn aml, nid ydynt yn cael yr help y mae ganddynt hawl iddo am nad ydynt yn ymwybodol o’u hawliau.

“Rwy’n cefnogi galwadau gan Ofalwyr Cymru i gynyddu gwybodaeth am hawliau gofalwyr oherwydd, fel y dangosodd yr arolwg diweddar, mae llawer o ofalwyr ar flaen y gad.

“Mae gofalwyr wedi camu i fyny ac wedi llenwi’r bwlch a adawyd gan ymateb rhai awdurdodau lleol i’r pandemig. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda gwasanaethau i oedolion anabl yn cael eu tynnu’n ôl gan yr awdurdod dan arweiniad Llafur.

“Hyd nes y bydd gofalwyr yn cael y parch a’r driniaeth y maent yn eu haeddu, bydd yr ymgyrchu’n parhau am eu bod yn haeddu cymaint gwell.

“Rwy’n hapus i ymuno â Gofalwyr Cymru i godi ymwybyddiaeth am y rôl anhygoel y mae gofalwyr yn ei chwarae mewn cymdeithas ac ymuno â’r galwadau am well triniaeth.