Mae Llywodraeth Awstralia’n anfon yr heddlu, milwyr a diplomyddion i Ynysoedd Solomon ar ôl i brotestiadau yn erbyn y llywodraeth droi’n dreisgar am yr ail ddiwrnod yn olynol wrth i bobol barhau i anwybyddu’r cyfyngiadau clo.

Yn ôl Scott Morrison, prif weinidog Awstralia, bydd y llywodraeth yn anfon 23 o blismyn ffederal a hyd at 50 yn rhagor o swyddogion i safleoedd isadeiledd hanfodol, yn ogystal â 43 o swyddogion amddiffyn, cwch i gynnal patrolau ac o leiaf bump o ddiplomyddion i geisio tawelu’r sefyllfa.

Mae disgwyl iddyn nhw fod yno am rai wythnosau, a’u “pwrpas yw cynnig sefydlogrwydd a diogelwch”, meddai’r prif weinidog.

Cyfnod clo

Cafodd cyfnod clo ei gyhoeddi gan Manasseh Sogavare, prif weinidog Ynysoedd Solomon, neithiwr (nos Fercher, Tachwedd 24), ar ôl i ryw 1,000 o bobol ymgasglu ar gyfer protest yn y brifddinas Honiara.

Mae’r protestwyr yn galw ar y prif weinidog i gamu o’r neilltu yn sgil llu o faterion cartref.

Aeth y protestwyr i mewn i adeilad y Senedd Genedlaethol a llosgi to adeilad cyfagos, gorsaf heddlu ac adeiladau eraill.

Daeth gorchymyn gan Manasseh Sogavare i gau’r brifddinas am 48 awr rhwng dydd Mercher a dydd Gwener, gan ddweud iddo fod “yn dyst i ddigwyddiad trist ac anffodus arall gyda’r bwriad o ddod â llywodraeth a gafodd ei hethol yn ddemocrataidd i lawr”.

Dywedodd fod y protestiadau’n “atgof poenus fod ffordd bell i fynd” cyn dianc rhag “y diwrnodau duaf yn hanes ein gwlad”.

Er gwaethaf cyhoeddiad yr heddlu fod patrolau’n cael eu cynyddu, fe fu’r protestwyr ar y strydoedd eto am ail ddiwrnod, gan roi banc, siopau ac ysgol ar dân.

Dywed Scott Morrison fod Awstralia’n helpu’r awdurdodau gan fod yr heddlu “wedi’u hymestyn”.

Roedd Manasseh Sogavare wedi cythruddo nifer o drigolion yn 2019, yn enwedig arweinwyr rhanbarthol Malaita, pan dorrodd e gysylltiadau diplomyddol â Taiwan, gan droi i gefnogi Tsieina.

Mae adroddiadau’r wasg leol yn awgrymu mai o Malaita mae trwch y protestwyr, a bod Daniel Suidani, yr arweinydd rhanbarthol yng nghanol ffrae â Manasseh Sogavare.

“Roedden nhw’n benderfynol o ddinistrio ein cenedl a’r… ymddiriedaeth oedd yn adeiladu’n araf ymhlith ein pobol,” meddai’r llywodraeth mewn datganiad.

Yn ôl Scott Morrison, roedd Manasseh Sogavare wedi ceisio cymorth gan Awstralia yn sgil y trais fel rhan o gytundeb diogelwch ar y cyd.

“Nid bwriad Llywodraeth Awstralia yw ymyrryd mewn unrhyw ffordd ym materion mewnol Ynysoedd Solomon,” meddai. “Mae hynny iddyn nhw ei ddatrys.

“Dydy ein presenoldeb ni yno ddim yn arwydd o unrhyw safbwynt ynghylch materion mewnol Ynysoedd Solomon.”