Fe fydd angladd bachgen 10 oed o Gaerffili fu farw yn dilyn ymosodiad gan gi yn cael ei gynnal heddiw (dydd Iau, Tachwedd 25).

Bu farw Jack Lis o ardal Penyrheol yn dilyn yr ymosodiad wrth iddo chwarae yng nghartref ffrind ar ôl bod yn yr ysgol ar Dachwedd 8.

Yn ôl adroddiadau, cafodd e anafiadau nad oedd modd eu goroesi.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys St. Martin yng Nghaerffili am 12 o’r gloch, a bydd yr angladd yn teithio drwy’r dref.

Mae tudalen codi arian a gafodd ei sefydlu gan ei fam, Emma Whitfield, wedi denu rhoddion o fwy na £16,000.

Teyrnged

Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd rhieni Jack Lis ei fod e’r “anwylaf o fechgyn”, a’u bod nhw’n “rhieni balch dros ben”.

Dywedon nhw na fyddai eu “bywydau fyth yr un fath eto heb Jack”, ac y byddan nhw’n “gweld eisiau ei ffyrdd bach hynod a’r straeon y byddai’n treulio cyhyd yn eu hadrodd wrthym”.

Mae dynes 28 oed wedi cael ei harestio mewn perthynas â’r ymosodiad gan y ci 15 mis oed sydd bellach wedi cael ei ddifa.