Mae Heddlu Gwent wedi ymddiheuro wrth ddwy ddynes ar ôl i adroddiadau o gam-drin domestig gael eu hanwybyddu.

Roedd y ddwy, sy’n cael eu hadnabod fel Jodie a Sarah, yn swyddogion gyda’r heddlu pan adroddon nhw am dderbyn camdriniaeth gan y Cwnstabl Clarke Joslyn, gan ddweud bod hynny wedi eu gadael nhw’n teimlo’n “ddiwerth” a “digalon”.

Roedd y llu wedi rhoi datganiad ddoe (dydd Mercher, Tachwedd 25), yn dweud eu bod nhw’n “hynod o sori” am beidio ymchwilio’n drylwyr i’r cyhuddiadau.

Cyhuddiadau

Bu Clarke Joslyn yn hyfforddi’r ddwy ddynes, ac mae’n debyg ei fod wedi defnyddio ei statws i’w swyno nhw i gael perthynas ag o, ac o hynny ymlaen, fe ddioddefon nhw gamdriniaeth.

Er i’r ddwy adrodd am y trais, chafodd eu cyhuddiadau mo’u cymryd o ddifrif gan yr heddlu.

Daeth i’r amlwg fod llawer o fenywod eraill wedi cael eu cam-drin gan Joslyn dros gyfnod o flynyddoedd tra bu’n hyfforddi swyddogion, ac fe agorodd achos o gamymddwyn yn ei erbyn yn 2018.

Fe gamodd yr heddwas o’r neilltu yn fuan cyn i banel ganfod ei fod yn euog o gamymddwyn difrifol.

‘Diwylliant bachgennaidd’

Yn dilyn hynny, fe wnaeth y ddwy ddynes honiadau yn erbyn Heddlu Gwent, fel rhan o ymgyrch genedlaethol i ddal yr heddlu i gyfrif am achosion o drais.

Fe wnaeth 155 o fenywod yn genedlaethol gyfaddef eu bod nhw wedi dioddef profiadau tebyg.

“Fe wnaeth gymryd fy holl nerth a dewrder i fi adrodd am y troseddau hyn yn ôl yn 2012,” meddai Jodie.

“Pan nad oeddwn yn cael fy ystyried o ddifrif, cafodd fy hyder ac ymddiriedaeth eu chwalu’n deilchion. Cefais fy ngadael nid yn unig i deimlo’n ddiwerth, ond hefyd roedd fy uniondeb yn cael ei gwestiynu.

“Fy nod trwy gydol hyn oedd dod â throseddwr domestig o flaen ei well, ac atal unrhyw un arall rhag mynd trwy’r hyn a wnes i. Yn anffodus, doedd hynny ddim yn bosib oherwydd esgeulustod Heddlu Gwent a’i ddiwylliant bachgennaidd.”

Dywed Sarah ei bod hi wedi colli popeth ar ôl adrodd am Joslyn.

“[Fe gollais fy enw da, fy iechyd, ac yn y diwedd fy ngyrfa gyda’r heddlu,” meddai.

“Fe ddechreuais gyda Heddlu Gwent yn ferch ifanc fywiog a oedd yn gyffrous am ei swydd a’i dyfodol.

“Pan adewais bum mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn i’n hollol ddigalon. Rydw i hyd yn oed wedi colli hyder yn yr heddlu fel gwasanaeth cyhoeddus.”

Ymddiheuriad

Fe wnaeth Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman, gyfarfod â’r ddwy ddynes i roi’r ymddiheuriad.

“Rydw i’n hynod o sori ein bod ni wedi eu gadael nhw i lawr mewn amser roedden nhw wir angen ein cefnogaeth,” meddai.

“Rydyn ni wedi gwrando, adlewyrchu, a chymryd camau i gael hyn yn iawn yn y dyfodol.

“Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr fod unrhyw un o’r heddlu, neu aelod o’r cyhoedd, yn gallu bod yn hyderus eu bod nhw’n cael eu clywed pan maen nhw’n codi pryderon am ymddygiad swyddogion neu staff, ac y byddan nhw’n cael eu hymchwilio’n drylwyr.

“Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae’n hanfodol i gynnal hyder yn ein gwasanaethau.”

Dywed Blakeman fod pob achos sy’n ymwneud â swyddogion, a lle mae ymddiriedaeth yn cael ei thorri, yn cael eu hadrodd i’r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ar gyfer eu hystyried a’u hymchwilio’n annibynnol.