Mae Llywodraeth Cymru wedi cael eu beirniadu am gynnydd araf o ran mynd i’r afael â rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus.
Wrth siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn y cyd-bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn dadl y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: ‘Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar weithredu’, tynnodd Mark Isherwood sylw at fethiannau o ran gweithredu’r Ddeddf yn llwyddiannus, a hithau wedi dod yn gyfraith chwe blynedd yn ôl.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal y Ddeddf rhag cyflawni’r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud, mae’n dweud bod y cynnydd yn araf.
“Mae’r ddeddfwriaeth uchelgeisiol, flaenllaw hon yn torri ar draws popeth a wnawn yma yng Nghymru i sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yn darparu’n effeithlon ac yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai wrth siarad yn y Senedd.
“Rai misoedd yn ôl, safodd fy rhagflaenydd yn y Siambr hon a siaradodd am ganfyddiadau adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pryd ar ‘Cyflawni dros Genedlaethau’r Dyfodol: Y Stori hyd yma’.
“Canfu’r adroddiad fod arweinyddiaeth anghyson a newid diwylliant araf yn methu dyheadau’r Ddeddf, ers iddi ddod yn gyfraith, chwe blynedd yn ôl, yn 2015.
“Dyma’r tro cyntaf i un o bwyllgorau’r Senedd gynnal gwaith craffu cynhwysfawr ar weithredu’r Ddeddf, gyda 97 o sefydliadau yn cyfrannu at yr ymchwiliad.
“Roedd yn waith cymhleth a oedd yn canolbwyntio ar edrych ar y darlun ehangach a pha rwystrau i weithredu oedd yn gyffredin i’r rhan fwyaf o wasanaethau cyhoeddus, os nad pob un.
“Roedd yn edrych yn eang ar y problemau sylfaenol sy’n gorwedd y tu ôl i ymdrechion pawb i weithredu’r Ddeddf.
“Gwnaeth adroddiad ein pwyllgor blaenorol 14 o argymhellion, wedi’u hanelu’n bennaf at Lywodraeth Cymru.
“Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ei hymatebion i’r tri adroddiad sy’n edrych ar y Ddeddf a heddiw mae gennym gyfle i drafod y rhain yn llawn.
“Fodd bynnag, dim ond drwy’r dull rhagweithiol a phragmatig a gymerwyd ar y cyd gen i a Chadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y mae hyn wedi digwydd, wrth ofyn am y ddadl hon ar y cyd.
“Rwy’n gobeithio y bydd hyn yn dynodi ac yn anfon neges glir am ba mor ddifrifol y mae Pwyllgorau’r Senedd yn mynd ati i graffu ac yn cyflawni ein dyletswyddau o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.”
‘Newid diwylliannol’
“Mae gweithredu’r Ddeddf yn dibynnu ar newid diwylliannol ac mae angen iddo ddechrau gydag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ar bob lefel o gyrff cyhoeddus,” meddai wedyn.
“Dro ar ôl tro, clywsom nad oes digon wedi’i wneud i gyflawni hyn a sicrhau’r newid i ddatblygu cynaliadwy ar draws gwasanaethau cyhoeddus y mae’r Ddeddf yn anelu at ei gyflawni.
“Er bod cyrff cyhoeddus wedi cael digon o amser a chyfle i gymryd y camau cyntaf hanfodol hynny tuag at ymgorffori datblygu cynaliadwy ym mhob gwasanaeth cyhoeddus, nid ydym yn gweld geiriau’n troi’n gamau pendant ac nid yw’n glir o hyd pa wahaniaeth y mae’r Ddeddf wedi’i wneud i’r ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu.
“Mae angen mwy o waith i gefnogi cyrff cyhoeddus sy’n gyfrifol am weithredu’r Ddeddf, i ddeall nid yn unig y saith nod llesiant, ond hefyd y pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.
“Heb y newid diwylliannol hwn, ni allwn oresgyn y rhwystrau i weithredu’r Ddeddf hon.”
‘Gormod o rwystrau’
Wrth grynhoi, dywedodd Mark Isherwood ei bod hi’n “amlwg bod gweithredu’r Ddeddf yn cael ei atal gan lawer gormod o rwystrau”.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r rhain ond mae’r cynnydd yn parhau’n rhy araf,” meddai.
“Nid oes llwybr clir i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn ac rydym yn pwysleisio bod gweithredu’r holl ddeddfwriaeth yn gofyn am fonitro, gwerthuso ac amserlen glir ar gyfer gweithredu.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru arwain drwy osod cyfeiriad clir i’n galluogi ni, fel Senedd, a Chymru, fel gwlad, i gymryd cyfrifoldeb ar y cyd dros ail-lunio gwasanaethau cyhoeddus er gwell.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.