Mae prif weinidog Cymru wedi galw ar Boris Johnson i gynnal “ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon” i osod cylch gorchwyl ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig.
Ar hyn o bryd, mae Mark Drakeford yn gwrthwynebu galwadau i gynnal ymchwiliad annibynnol i Gymru.
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw ar y llywodraeth i newid eu meddyliau.
Cyhuddodd y Ceidwadwyr Cymreig Mark Drakeford o geisio “gwrthdaro” gyda gweinidogion y Deyrnas Unedig.
Dywed Plaid Cymru fod yr amser sydd wedi’i dreulio yn ceisio sicrwydd gan y prif weinidog yn “amser y gellid bod wedi ei dreulio yn sefydlu ymchwiliad sy’n benodol i Gymru”.
Mae grwpiau ymgyrchu teuluoedd mewn profedigaeth hefyd yn mynnu ymchwiliad.
Llythyr
Yn ei lythyr, mae Prif Weinidog Cymru yn dweud ei bod hi’n “bwysig iawn dangos” i’r rhai sy’n galw am ymchwiliad Cymreig “y bydd ymchwiliad gan y Deyrnas Unedig yn clywed eu pryderon ac yn mynd i’r afael â’r materion maen nhw’n eu codi”.
“Rwy’n parhau o’r farn mai dim ond drwy eu gweld yng nghyd-destun tirwedd gyfreithiol a pholisi ehangach y Deyrnas Unedig y gellir cyflawni dealltwriaeth briodol o benderfyniadau llywodraethol sy’n effeithio ar bob un o’r llywodraethau datganoledig,” meddai.
Mae’n dweud y dylai pob teulu sydd “wedi dioddef colled a chaledi o ganlyniad i’r pandemig” fod wrth wraidd y broses gyda “mynediad llawn i’r cyhoedd a chyfranogiad y cyhoedd”.
“Rwy’n gobeithio y gall yr ymchwiliad ddangos y natur agored hon ar y dechrau drwy gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon ar y cylch gorchwyl.”
Craffu
Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, fe ddylai penderfyniadau a gafodd eu gwneud ym Mae Caerdydd fod yn destun craffu.
“Cafodd penderfyniadau a wnaed ym Mae Caerdydd – rhai da a drwg – effaith uniongyrchol ar fywydau ledled Cymru ac ni all gweinyddiaeth Lafur wrthod hynny a oedd yn awyddus i bwysleisio ar bob cyfle eu bod wedi gwneud pethau’n wahanol,” meddai llefarydd.
“Rydym wedi bod yn weddol hyderus ers nifer o fisoedd bellach y bydd y prif weinidog, ar ôl sylweddoli nad yw’n cyd-fynd â barn y cyhoedd, yn ceisio gwrthdaro â llywodraeth Prydain i guddio ei rwystr dychrynllyd o ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig yma yng Nghymru.”
Dywed Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru wedi bod yn galw am waith ar ymchwiliad annibynnol ers haf 2020.
“Mae’r prif weinidog yn parhau i gyd-fynd ag ymchwiliad i’r Deyrnas Unedig, ond yr hyn sy’n glir yn awr yw nad oes gennym y sicrwydd a geisir eto gan gynifer o deuluoedd sy’n galaru y bydd eu pryderon yn cael eu clywed.”
Llywodraeth Cymru
“Bydd gan ymchwiliad ledled y DU y gallu a’r grym i oruchwylio natur llawer o’r penderfyniadau sydd wedi’u gwneud ar draws y pedair gwlad,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae’r Prif Weinidog Cymru wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn nodi’r materion penodol niferus y mae’n rhaid i’r ymchwiliad ganolbwyntio arnynt i ddelio’n gynhwysfawr â gweithredoedd llywodraeth Cymru.
“Rydym yn aros i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gadarnhau’r amserlen.”