Fe ddaeth i’r amlwg fod llygredd o hen safle tirlenwi yng Nghaerdydd yn llifo i mewn i’r Bae ers blynyddoedd.

Mae’r safle erbyn heddiw yn cuddio o dan Barc Grangemoor yn ardal Trelluest (Grangetown), ac mae wedi datblygu i fod yn hafan i bobol sy’n hamddena ac sydd eisiau gweld golygfeydd o’r brifddinas.

Ond ar un adeg, roedd yn gartref i un o safleoedd tirlenwi mwyaf y Deyrnas Unedig, ond mae etifeddiaeth hynny yn parhau i gael effaith ar ddyfrffyrdd, gan gynnwys yr afon Elái.

Er bod adeiladu’r parc wedi cynyddu bioamrywiaeth a bywyd gwyllt o fewn ei ffiniau, mae pryderon dybryd am yr amgylchedd o gwmpas y parc.

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae’r sefyllfa o dan reolaeth ac mae cyfanswm y llygredd yn fach iawn, ond mae ffynhonnell y llygredd yn parhau i fod yn anhysbys, a does dim modd o’i stopio rhag mynd i mewn i’r afon a’r Bae.

Safle tirlenwi

Yn 1969, cafodd afon Elái ei sythu allan, ac yn dilyn hynny, cafodd safle tirlenwi ei agor ar wely ei hen lwybr.

Roedd gwastraff yn cael ei ddympio ar y safle hwnnw nes y 1990au, gan gynnwys gwastraff diwydiannol a masnachol.

Mae arbenigwyr yn honni bod pedair miliwn metr ciwbig o wastraff wedi ei ddympio yno at ei gilydd, gyda llygredd o’r gwastraff hwnnw yn llifo i mewn i’r afonydd cyfagos drwy ddŵr glaw.

Cafodd y llygredd ei rwystro yn 1996, pan gafodd system ei hadeiladu i gasglu’r llygredd hyn, sydd bellach yn cael ei redeg gan y Cyngor.

Ond mae’n debyg fod dogfennau allweddol am y safle tirlenwi a’r system wedi cael eu colli, ac yn 2019, fe wnaeth arolygwyr amgylcheddol ganfod cemegau yn y bae, gan gynnwys amonia, clorid a nicel.

Mae hyn wedi codi pryderon dybryd ymysg trigolion lleol, sydd wedi bod yn adrodd am lygredd yn gollwng drwy biben i’r Bae ers 2017.

Ymateb

Mae grŵp sy’n cynrychioli cymuned Trelluest ar Twitter yn nodi bod “heriau amlwg o gael hen domen wastraff yn agos i afon,” a’i bod hi’n “anodd credu bod hyn wedi gallu digwydd.”

Dywedodd un arall ei bod hi’n “eithaf syfrdanol bod y broblem wedi bod yn mynd ymlaen cyhyd,” ac nad yw’r Cyngor “wedi gweithredu gydag unrhyw frys.”

Mae’n debyg fod Cyngor Caerdydd nawr yn chwilio am ffynhonnell y llygredd, gan gydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru ar gynllun rheoli safle tirlenwi a mesurau i atal llygredd yn y dyfodol.

Byddan nhw hefyd yn cynnal gwaith ar Barc Grangemoor yn ystod y gaeaf.