Mae NFU Cymru wedi codi pryderon y gallai cytundebau masnach niweidio’r cyfraniad pwysig mae ffermio yng Nghymru yn ei wneud i fywyd diwylliannol cymunedau gwledig.

Yn ystod sesiwn y Pwyllgor Materion Cymreig, fe ddywedodd John Davies, cadeirydd NFU Cymru nad oedd am weld cytundebau masnach yn y dyfodol yn “tanseilio safonau” a “gwerthoedd amaeth” ffermio, a fyddai yn eu tro yn effeithio ar fusnesau a bywyd diwylliannol cymunedau gwledig yn y broses.

Yn sgil Brexit, mae’r Deyrnas Unedig wedi cael y rhyddid i daro ei chytundebau masnach ei hun.

Hyd yn hyn, mae wedi llofnodi cytundebau masnach a chytundebau mewn egwyddor gyda 69 o wledydd ac un gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Ond mae pryder bod cytundebau diweddaraf y Deyrnas Unedig rhwng Awstralia a Seland Newydd yn gosod cynsail peryglus i ddyfodol cymunedau gwledig.

Mae amaethwyr yn poeni y gallai’r cytundebau masnach olygu cynnydd sylweddol yn y cig oen sy’n cael ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â chig eidion, menyn a chaws.

Effaith ar gymunedau

Wrth roi tystiolaeth gerbron aelodau seneddol, fe soniodd John Davies am ei bryder ynghylch effaith y cytundebau ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

Nod y sesiwn oedd edrych ar yr effaith economaidd a diwylliannol wrth edrych tua’r dyfodol yn dilyn Brexit.

Eisoes mae gan Gymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

“Mae’r fferm deuluol yn eithriadol o bwysig i ni yma yn NFU Cymru ac rwy’n credu mai dyma asgwrn cefn ein diwydiant,” meddai John Davies.

“Nid oes dim yn rhoi mwy o bleser i mi na gweld fy nhad 91 oed yn gweithio gyda fy mab 21 oed cyn bo hir ar y fferm, ac mae hyn yn digwydd ledled Cymru.

“Mae’r cyfuniad o brofiad, uchelgais a chyffro yn golygu y gallwn gael dyfodol gwych, mae angen i ni sicrhau ein bod yn cael chwarae teg.”

Fe bwysleisiodd fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sector yn fwy na dwywaith y cyfartaledd cenedlaethol, gan danlinellu bod ffermio’n elfen allweddol yn niwylliant a threftadaeth Cymru.

“Buodd fy ngwraig yn Nhregaron yn yr Eisteddfod Ffermwyr Ifanc dros y penwythnos sy’n fudiad hollbwysig, ac mae’n rhaid cofio bod 43% o bobol yn ein diwydiant yn siarad Cymraeg ac mae’n rhan o ffabrig cymunedau gwledig”

Yr economi amaethyddol a’r Gymraeg

“Mae ardaloedd di-Gymraeg yng Nghymru sy’n gwneud cyfraniad pwysig i fywyd diylliannol gwledig,” meddai Nick Fenwick, Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, wrth drafod effaith economaidd Brexit ar gymunedau Cymraeg eu hiaith.

“Ond yn yr iaith, mae gyda ni rywbeth y gallwn fesur ei heffaith economaidd, ac mae’n hollbwysig fod y Gymraeg yn gwneud fyny am 61% o’r holl ieithoedd Celtaidd a chan gofio ffigurau John [Davies], mae amaeth yn hollbwysig.

“Mae bodolaeth y busnesau a’u bod yn fyw yn ein cymunedau yn bwysig gan fod hynny’n cael effaith uniongyrchol ar y diwylliant.”

“Siomedig”

Yr Aelod Seneddol dros Preseli Penfro, Stephen Crabb, sy’n cadeirio Pwyllgor Materion Cymreig y Llywodraeth.

Fe wnaeth y pwyllgor awgrymu bod adroddiad yn cael ei lunio’n asesu effaith y gytundeb ar Gymru, a dywedodd Crabb ei fod yn “siomedig” bod hynny heb allu digwydd.

“Mae ymateb y Llywodraeth heddiw i’n gwaith yn asesu effaith cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia yn cael ei groesawu,” meddai.

“Ond er fy mod i’n hapus i weld y Llywodraeth Prydain yn ailadrodd eu hymrwymiad i rannu cynnwys drafft y gytundeb â’r llywodraethau datganoledig, rwyf yn siomedig bod ein hargymhelliad am asesiad effaith Cymru-benodol wedi cael ei wrthod.”