Mae’r amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn hirach nag y maen nhw wedi bod ers 2016.
Dangosa ystadegau newydd ar gyfer mis Medi 2021 mai 62.3% o asesiadau iechyd meddwl gafodd eu cwblhau o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y cafodd y claf ei atgyfeirio am asesiad.
Roedd hynny’n ostyngiad o’r 65.9% yn ystod mis Awst, gan olygu bod yr amser aros, ar gyfartaledd, yn hirach nag y bu ers mis Ionawr 2016.
Fe wnaeth dros 730 claf orfod aros rhwng 28 a 56 diwrnod am asesiad yn ôl ystadegau mis Medi, gyda bron i 600 yn aros mwy na 56 diwrnod.
Yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro, dim ond 26.5% o’r cleifion gafodd eu hasesu o fewn 28 diwrnod.
Roedd yr amseroedd aros dipyn gwaeth yng Nghaerdydd a’r Fro o gymharu â byrddau eraill, gyda’r aros hiraf, fel arall, ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Yno cafodd 56.3% o bobol eu hasesu o fewn 28 diwrnod.
Mae’r canrannau ar gyfer faint o bobol gafodd eu hasesu o fewn 28 diwrnod dipyn uwch ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe (95.4%), Powys (86.9%), ac Aneurin Bevan (84.9%).
“Annerbyniol”
Yn ôl James Evans AoS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig dros Iechyd Meddwl, mae’r amseroedd aros yn “annerbyniol”.
“Mae gweinidogion Llafur yn hoffi dweud bod iechyd meddwl yn brif flaenoriaeth iddyn nhw, ond mae’r ystadegau hyn yn dweud stori wahanol iawn gydag amseroedd aros ar eu lefelau isaf ers 2016,” meddai James Evans.
“Mae miloedd o bobol dros y wlad yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, ond pan maen nhw’n gofyn am yr help sydd ei angen arnyn nhw, ac y maen nhw’n ei haeddu, maen nhw’n wynebu amseroedd aros hir – ac mae hynny’n annerbyniol, yn syml.
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn ers tro am weithredu i fynd i’r afael ag argyfwng iechyd meddwl Cymru drwy osod targedau ar gyfer amseroedd aros a sefydlu canolfannau argyfwng 24/7, ond does neb wedi gwrando ar ein galwadau.
“Dw i wedi dweud hyn o’r blaen, ac fe wna i barhau i ddweud hyn nes bod fy wyneb yn las – rydyn ni angen gweld gweithredu nawr cyn bod y broblem ofnadwy hon yn mynd dim gwaeth.”
“Cymryd amser”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Er bod gwasanaethau iechyd meddwl yn wasanaethau hanfodol ac wedi parhau i fod ar gael yn ystod y pandemig, mae amseroedd aros wedi cael eu heffeithio.
“Bydd adennill perfformiad amseroedd aros yn cymryd amser ac eleni rydym wedi darparu £42 miliwn ychwanegol eleni i wella cymorth iechyd meddwl.
“Fodd bynnag, bydd angen dull amlasiantaethol o ddiwallu’r anghenion iechyd meddwl ac mae ein Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl newydd yn nodi camau gweithredu i wneud hyn.”