Mae dyn 31 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd, meddai Heddlu’r De.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar y dyn toc cyn 9yb ddydd Mawrth (23 Tachwedd) tu allan i loches i’r digartref yn Stryd Hansen yn ardal Trebiwt o’r ddinas.

Mae dyn 44 oed wedi cael ei arestio yn ardal Sblot ar amheuaeth o lofruddio ac yn parhau i gael ei gadw yn y ddalfa.

Dywed ditectifs nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn ond mae’r heddlu’n credu ei fod yn ddyn lleol ac mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Mae Heddlu’r De wedi apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.