Mae hi’n “syfrdanol a rhyfedd” na chafodd rhai o staff y Gwasanaeth Iechyd eu profi’n rheolaidd am Covid-19 yn ystod yr ail don, meddai’r Ceidwadwyr Cymreig.
Yn ôl ymchwil gan BBC Wales Live, nid oedd gweithwyr rheng flaen mewn rhai ysbytai yng Nghymru yn cael eu profi’n rheolaidd nes mis Mawrth 2021.
Cafodd cynlluniau i gynnal profion llif unffordd rheolaidd eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr llynedd, ond ni chafodd y rhaglenni eu cyflwyno mewn rhai ysbytai yn syth er bod Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd ar y pryd, wedi dweud y byddai staff iechyd rheng flaen yn cael eu profi’n rheolaidd o 14 Rhagfyr.
Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George AoS, eu bod nhw’n “mynd ymhell i esbonio sut bod chwarter marwolaethau Covid yng Nghymru wedi digwydd yn sgil heintiadau gafodd eu dal mewn ysbytai”.
Ers dechrau’r pandemig, mae 8,075 o bobol wedi, neu’n debygol o fod wedi, cael eu heintio gyda Covid mewn ysbytai.
Cafodd dros hanner yr heintiadau hynny eu trosglwyddo rhwng Hydref 2020 a Chwefror 2021.
“Methiant erchyll”
“Y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd sy’n gyfrifol am benderfyniadau iechyd cyhoeddus ac mae hynny’n cynnwys rhaglenni profi, felly beth bynnag yw’r rheswm dros eu gweithredoedd a’r methiant erchyll hwn, mae’r cyfrifoldeb arnyn nhw,” meddai Russell George.
“Mae’r ffaith bod y Gweinidog Iechyd bryd hynny wedi methu â sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cyflwyno profi rheolaidd o’r dyddiad penodedig yn dangos patrwm o golli canolbwyntiad gan ein harweinwyr wrth reoli lledaeniad heintiadau.
“Unwaith eto, mae hyn yn ategu pam ein bod ni angen ymchwiliad Covid penodol i Gymru.
“Dylai Llafur roi’r gorau i geisio atal un, a chaniatáu i deuluoedd sy’n galaru gael yr atebion y maen nhw’n eu haeddu.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae coronafeirws yn feirws sy’n lledaenu’n hawdd, yn enwedig mewn lleoliadau caeedig, megis ysbytai.
“Trwy gydol y pandemig, fe wnaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru ddilyn canllawiau rheoli ac atal heintiadau’r Deyrnas Unedig, sydd wedi cael ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i ni ddysgu mwy am coronafeirws a sut mae’n lledaenu, gan gynnwys sut y gall pobol ledaenu’r feirws heb ddangos unrhyw symptomau.
“Mae canllawiau wedi cael eu rhoi i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac wedi’i ddiweddaru’n rheolaidd, ynghylch ymbellhau cymdeithasol, y bylchau rhwng gwlâu, profi staff a chleifion, a gwisgo mygydau.
“Mae nifer o wiriadau wedi cael eu gwneud gan fyrddau iechyd, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i gynnig gwasanaethau i gleifion gyda Covid-19 yn ogystal â rhai sydd angen mynediad at wasanaethau hanfodol eraill.
“Mae byrddau iechyd wedi creu ardaloedd ar wahân mewn ysbytai i helpu i amddiffyn cleifion a staff, a sicrhau bod yr amgylchedd mor ddiogel â phosib.
“Ond er gwaetha’r holl fesurau hyn i ddiogelu staff a chleifion mewn ysbytai, yn anffodus mae pobol wedi dal coronafeirws yn yr ysbyty ac mae rhai, yn drist iawn, wedi marw.
“Mae bron i filiwn o brofion PCR wedi cael eu cynnal mewn ysbytai yn ystod y pandemig, ac rydyn ni wedi cyflenwi bron i 1.5 miliwn o brofion llif unffordd i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o brofi gweithwyr heb symptomau.
“Rydyn ni hefyd wedi ehangu’r rhaglen a chyflenwi adnoddau i gontractwyr gofal sylfaenol annibynnol ac ysbytai annibynnol dros Gymru.
“Bydd gan ymchwiliad ar gyfer yr holl Deyrnas Unedig y capasiti a’r grym i oruchwylio natur gydgysylltiedig y penderfyniadau, sydd wedi cael eu gwneud dros y pedair cenedl.
“Mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn [gweinidog uchaf Swyddfa’r Cabinet, oni bai am y Prif Weinidog] ynglŷn â nifer o faterion penodol y mae’n rhaid i’r ymchwiliad ganolbwyntio arnyn nhw er mwyn mynd i’r afael â gweithredoedd Llywodraeth Cymru mewn modd cynhwysfawr.”