Mae’r grŵp ymgyrchu hawliau sifil Big Brother Watch wedi cychwyn her gyfreithiol yn erbyn cyflwyno pasys Covid gorfodol yng Nghymru, gan alw am ddileu’r cynllun “awdurdodol a di-sail”.
Bydd pasys Covid yn cael eu cyflwyno mewn sinemâu a theatrau yng Nghymru yn dilyn pleidlais yn y Senedd nos Fawrth, 9 Tachwedd).
Fe bleidleisiodd 39 Aelod o’r Senedd o blaid, a dim ond 15 yn erbyn.
Mae hyn yn golygu y bydd pobol dros 18 oed yn gorfod cyflwyno pàs Covid cyn cael mynediad i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd o 15 Tachwedd.
Roedd disgwyl i’r mesurau gael eu pasio wedi i Blaid Cymru gyhoeddi ar yr unfed awr ar ddeg eu bod nhw’n bwriadu cefnogi’r mesur.
Mae angen cymorth o leiaf un gwleidydd gwrthbleidiol ar y Llywodraeth i ennill pleidleisiau.
Pasys Covid
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i bobol ddangos eu pas Covid er mwyn cael mynediad i glybiau nos a digwyddiadau mawr yng Nghymru.
Roedd protestiadau yn erbyn cyflwyno pasys Covid y tu allan i’r Senedd cyn i’r bleidlais gael ei chynnal.
Mae cyflwyno pasys Covid wedi bod yn destun ffraeo ar lawr y Siambr ers y bleidlais dyngedfennol fis diwethaf.
Yn y bleidlais honno, fe bleidleisiodd Aelodau o’r Senedd o drwch blewyn (28 o blaid, 27 yn erbyn) i gefnogi cynnig Llywodraeth Cymru.
“Di-sail”
Anfonodd Big Brother Watch lythyr at Lywodraeth Cymru heddiw (10 Tachwedd) yn dweud nad oes tystiolaeth bod pasys Covid o fudd i iechyd y cyhoedd.
Maen nhw hefyd yn honni y bydd y cynllun yn diddymu’r hawl i breifatrwydd, sy’n cael ei ddiogelu gan y Ddeddf Hawliau Dynol.
“Pasbortau iechyd mewnol yw pasys Covid sy’n awdurdodol ac yn ddi-sail,” meddai Cyfarwyddwr Big Brother Watch, Silkie Carlo.
“Nid yw pasys Covid yn dweud wrthych nad oes gan berson Covid neu a yw’n gallu lledaenu Covid, ond mae’n gwneud cymdeithas yn llai rhydd ac yn llai hygyrch i bobol.
“O fewn wythnosau, mae’r cynllun adnabod iechyd gorfodol hwn eisoes wedi’i ehangu’n sylweddol yn absenoldeb sail dystiolaeth.
“Mae mesurau llawer mwy cymesur, effeithiol a chynhwysol i gadw pobl yn ddiogel a chael y wlad yn ôl i’r arfer nag eithrio pobol iach heb y papurau iechyd cywir rhag cymdeithas.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y pasys Covid ymrannol a gwahaniaethol hyn.
“Os nad ydyn nhw, byddwn yn ceisio cyflwyno ein hachos yn y llys.”
“Cadw Cymru’n ddiogel”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae achosion o coronafeirws yng Nghymru yn uchel iawn ar hyn o bryd ac mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ddod â nhw dan reolaeth.
“Mae ymestyn y defnydd o’r pas Covid i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ffordd arall y gallwn gryfhau’r mesurau sydd gennym ar waith i’n cadw ni i gyd yn ddiogel.
“Does neb eisiau gweld newid i fesurau llymach o’r math a welsom y gaeaf diwethaf.
“Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i gadw Cymru ar agor ac i gadw Cymru’n ddiogel.”