Mae busnesau yn Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint yn mynd o nerth i nerth, gyda mwy na 50 o fusnesau wedi agor neu ehangu yng nghanol y dref dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ol Maer y dref.

Dim ond 5.8% o adeiladau’r dref sy’n wag, sy’n llawer iawn is na’r cyfartaledd Prydeinig o 14.5%.

Cyfeiriodd y Maer,  Sarah Taylor, at fentrau gan gynnwys cynllun talebau Totally Mold a digwyddiadau sydd ar y gweill fel Gŵyl Tachwedd a’r ‘Frost Fair’ fel pethau sydd wedi rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr a chwsmeriaid.

“Rydw i mor falch o’r ffordd y mae’r gymuned wedi cefnogi ei busnesau lleol, a sut mae’r busnesau eu hunain wedi ymgyrchu drwy gydol pandemig y coronafeirws i barhau â’u gwasanaethau,” meddai’r Sarah Taylor.

“Maen nhw wedi bod yn greadigol, yn wydn ac yn benderfynol o ddal ati, sy’n anhygoel.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobol yn parhau i ymweld â nhw yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn siopa’n lleol, ar adeg pan fydd gwir angen ein cefnogaeth arnynt.”

“Annog pobol i siopa’n lleol”

Mae’r cynllun talebau wedi chwarae rhan bwysig wrth ddenu cwsmeriaid, meddai.

Cafodd dros £15,000 ei wario gyda busnesau lleol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r fenter wedi’i hymestyn i Awst 31 2022.

Dywedodd Joanna Douglass, Swyddog Busnes ac Adfywio Cyngor Tref yr Wyddgrug fod hyn wedi rhoi chwistrelliad arian parod i’r economi ar adeg bwysig.

“Roedd y cynllun talebau yn annog pobol i siopa’n lleol, ac roedd yr adborth a gawsom yn wych, roedd mor gadarnhaol,” meddai Joanna Douglass.

“Drwy brynu’r talebau, rydych chi’n atgyfnerthu bywyd y dref; pe bai pob oedolyn yn yr Wyddgrug yn gwario dim ond £5 yr wythnos yn ein siopau yn hytrach nag ar-lein neu rywle arall fe fyddai’n cyfateb i £2m bob blwyddyn i’n heconomi.

“Mae hynny’n golygu mwy o swyddi, mwy o gyfleoedd a’r Wyddgrug hyd yn oed yn fwy llewyrchus.”