Mae faint o ferched sydd wedi rhannu eu straeon am orfod cerdded adre yn hwyr yn nos yn sgil diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn “amlygu’r broblem”, meddai un ymgyrchydd.

Dechreuodd Mared Parry, sy’n dod o Lan Ffestiniog yn wreiddiol ond yn byw yn Llundain, ddeiseb yn galw am ailgyflwyno’r tube nos yn Llundain.

Ers dechrau’r ddeiseb yn galw ar Drafnidiaeth Llundain i ailddechrau’r gwasanaethau nos erbyn fis nesaf, mae Mared Parry wedi clywed gan gannoedd o fenywod sydd wedi bod mewn sefyllfa lle nad ydyn nhw’n gallu cael trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd adre.

Yr un yw’r stori gan bawb, meddai, gan nodi bod pob un sydd wedi cysylltu â hi yn fenywod, a bod pob un ohonyn nhw’n ddiolchgar na ddigwyddodd dim byd iddyn nhw wrth gerdded adre.

Mae’r broblem yn un sy’n gyffredin mewn dinasoedd a threfi eraill yn y Deyrnas Unedig hefyd, meddai Mared Parry wrth golwg360, gan gynnwys Caerdydd.

Wrth drafod y sefyllfa, mae Cymorth i Ferched Cymru yn croesawu unrhyw “ddatblygiadau sy’n cynyddu hygyrchedd a diogelwch”, ond yn dweud bod rhaid sicrhau nad yw’r baich yn cael ei roi ar fenywod i newid eu hymddygiad gan fod trais gan ddynion yn “fater cymdeithasol systemig”.

Galwadau

Dechreuodd Mared Parry y ddeiseb ar ôl gwneud trydariad, sydd wedi cael ei hoffi gan 13,500 o bobol.

“Fe wnes i dweetio am frustration fi dros y tube achos mae o jyst yn annoying i bawb, ac mae yna ambell fêt wedi crybwyll y peth,” meddai Mared Parry, sy’n newyddiadurwraig.

“Dw i’n dweud hyn bob un noson, achos yn lle mae fy fflat i, mae ein balconi ni yn edrych allan ar blatfform y Tube so dw i o hyd yn meddwl amdano fo achos dw i o hyd yn gallu gweld o.

“Pam ddiawl dydi’r Tube ddim yn rhedeg especially efo bob dim sy’n digwydd efo Sarah Everard, Sabina Nessa, efo’r achosion yma i gyd yn digwydd yn cwrt, bob dim newydd sy’n dod allan bob diwrnod.”

Rhwng llofruddiaeth Sarah Everard ac wythnos gyntaf Hydref, mae gwaith prosiect Counting Dead Women yn dangos bod 81 o fenywod wedi cael eu llofruddio gan ddynion yn y Deyrnas Unedig.

“Sut bod Trafnidiaeth Llundain dal heb ddechrau’r night tube, ges i look mewn iddo fo a’r peth dwytha oedden nhw wedi dweud amdano fo oedd yn Ebrill yn dweud “there is no demand for it”, ac yn dweud bod o ddim am ddechrau nes o leiaf 2022.

“Roeddwn i’n meddwl bod rhywbeth angen cael ei wneud i’w wneud o’n fwy formal… sheet o bapur efo enwau arno fo edra i ei roi i Sadiq Khan iddo fo allu gweld faint o bobol sydd ei angen o.”

Yn y gorffennol, mae Mared Parry wedi bod yn ymgyrchu â’r NSPCC er mwyn codi ymwybyddiaeth am beryglon y rhyngrwyd, ac fel rhan o’r ymgyrchu bu’n siarad â’r gwleidyddion yn San Steffan am sut i wneud y rhyngrwyd yn saffach i blant.

Rhannu straeon

Ers gwneud y trydariad, mae cannoedd o bobol – “i gyd yn ferched, dim un hogyn” – wedi rhannu straeon am “bethau uffernol sydd wedi digwydd iddyn nhw” efo Mared Parry.

“Yn amlwg mae gen ti’r pethau awful yn digwydd – y bobol sydd wedi eu hymosod a ballu – ond efo pawb arall, mae hi’r un stori: “I was stranded on my own after a club night in XYZ, and I sat there for three hours for a taxi but no one would pick me up because there were none available, I had to walk home”

“Hynna ydi’r stori gan bawb, ac maen nhw gyd yn ddiolchgar bod yna ddim byd wedi digwydd iddyn nhw ar y ffordd adra achos pa mor hawdd fysa hi i rywbeth fod wedi gallu digwydd iddyn nhw.

“Mae’r ffaith bod yna gymaint o genod yn rhannu straeon am sut maen nhw wedi gorfod basically gamblo’u bywydau yn cerdded adra achos does yna ddim services yna i fynd â nhw yn nyts.

“Mae o’n rili rhoi spotlight ar y broblem pan ti’n clywed gan gymaint o bobol, un ar ôl y llall.”

Mared Parry

Mae Mared Parry a’i ffrindiau wedi gorfod cerdded wrth ddychwelyd adre ar ôl nosweithiau allan, ond mae hi’n nodi bod yna bobol sydd gan ddim dewis, gan gyfeirio at fyfyrwyr sy’n nyrsys ac yn gorffen shifftiau nos am 4yb, neu bobol sy’n gweithio mewn bariau a chlybiau nos.

“Mae hi’n ddigon hawdd i’r dynion yma ddweud: “Oh just get a taxi if you feel so unsafe”, maen nhw’n gwneud ryw £60 y shifft… be maen nhw’n mynd i wneud? Gwario hwnna gyd ar dacsi?”

Mae deiseb debyg wedi’i lansio gan Ella Watson hefyd, sy’n galw ar Sadiq Khan, maer Llundain, i ailgyflwyno’r tube nos ar gyfer gaeaf 2021/22, i wella diogelwch menywod.

Yn ôl llefarydd ar ran y maer, mae Sadiq Khan wedi ymrwymo i wella diogelwch menywod ac ailddechrau’r tube nos “mor sydyn â phosib”.

“Mae e wedi annog Trafnidiaeth Llundain i edrych ar y posibilrwydd o ailagor un neu ddwy linell eleni, a fydd yn bosib gobeithio,” meddai’r llefarydd.

“Problem wahanol”

Bu Mared Parry yn astudio yn y brifysgol yng Nghaerdydd, ac ychwanegodd bod pobol yn gallu cael eu gadael heb ffordd adre yn hwyr yn nos.

“Dw i wedi byw yng Nghaerdydd am dair blynedd… does yna jyst ddim public transport o gwbl yng Nghaerdydd,” meddai Mared Parry.

“Ddaru fi ddechrau yno chwe blynedd yn ôl, roedd o’n broblem adeg yna. Mae o’n broblem sy’n wahanol ymhob dinas ac mae o’n dibynnu ar le ti’n byw.”

Wrth gymharu ardaloedd gwledig â dinasoedd fel Llundain, Caerdydd, Abertawe ac ati dywedodd Mared Parry bod y sefyllfa’n wahanol yn sgil faint o bobol sy’n casglu mewn dinasoedd.

“Yn Llundain, mae gen ti gymaint o bobol yn byw mewn un lle, gymaint o glybiau, y mass o bobol sy’n cael eu stwffio mewn un lle… dyna sy’n gwneud o mor scary.

“Os ti’n cael gwared ar y night tube, ti’n llythrennol yn gwneud hi’n anodd i filoedd a miloedd a miloedd o bobol rhag mynd adra bob un noson.”

“Mater cymdeithasol systemig”

Wrth drafod camau i wella trafnidiaeth yn y nos, dywedodd Cymorth i Ferched Cymru eu bod nhw’n “croesawu unrhyw ddatblygiadau sy’n cynyddu hygyrchedd a diogelwch”.

Fodd bynnag, maen nhw’n pwysleisio bod “rhaid i ni sicrhau nad yw’r baich yn cael ei roi ar fenywod i addasu eu hymddygiad”.

“Mae trais dynion yn fater cymdeithasol systemig na fydd ond yn cael sylw gyda newidiadau ysgubol i’r ffordd y mae ein cymdeithas yn ystyried casineb a rhagfarn tuag at ferched (misogyny),” meddai llefarydd ar ran Cymorth i Ferched Cymru.

“Rydyn ni eisiau gweld y sefydliadau sydd â’r pŵer i greu newid yn rhoi pwyslais ar gyllid sylweddol a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau a gwaith atal er mwyn mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yng Nghymru.”

Trosedd casineb

Mae galwadau wedi bod i ystyried casineb a rhagfarn tuag at ferched fel trosedd casineb yng Nghymru a Lloegr, ond mae Boris Johnson wedi diystyru’r galwadau gan ddweud bod “digonedd” o ddeddfwriaethau’n bodoli’n barod i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod.

Dywedodd wrth y BBC y byddai “ehangu’r ystod” o’r hyn y mae gofyn i’r heddlu ei wneud yn cynyddu’r broblem.

Yn ôl ymgyrchwyr, casineb a rhagfarn tuag at fenywod yw un o “brif achosion” trais yn erbyn menywod.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab, wedi cael ei gyhuddo o fethu â deall ystyr y gair ‘misogyny’ wrth ei ddefnyddio mewn cyfweliad gyda’r BBC am drais yn erbyn menywod.

“Mae geiriau cas a misogyny yn hollol anghywir boed yn ddyn yn erbyn dynes neu ddynes yn erbyn dyn,” dywedodd Mr Raab.

“Does dim rhyfedd bod y Ceidwadwyr yn anobeithiol am fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched,” meddai ysgrifennydd cyfiawnder y Blaid Lafur, David Lammy wrth ymateb i hynny.