Mae iechyd ysgyfaint pobl Cymru yn “wynebu argyfwng” oni bai bod gweithredu ar frys ar Ddeddf Aer Glân Llywodraeth Cymru, yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol.
Mae Jane Dodds AoS, arweinydd y blaid yng Nghymru, yn galw ar y llywodraeth i gyflawni ei Deddf Aer Glân i Gymru gan ddweud “na all iechyd pobl Cymru aros mwyach”.
Mae’r aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o “weithredu’n rhy araf.”
Gyda chynhadledd newid hinsawdd COP26 yn Glasgow fis nesaf, mae’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i osod cynllun gweithredu yn ei le er mwyn i Gymru osod esiampl.
Argyfwng
Mae Jane Dodds yn rhybuddio fod y sefyllfa bresennol yn golygu bod pobl Cymru’n wynebu argyfwng i iechyd yr ysgyfaint gyda threfi ledled Cymru’n cynnwys lefelau peryglus o lygredd.
“Rydym yn wynebu argyfwng, bydd 1 o bob 5 ohonom yn datblygu clefyd yr ysgyfaint ar ryw adeg yn ein bywydau ac mae pum tref a dinas yng Nghymru i gyd wedi adrodd am lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
Amcangyfrifir bod effaith ansawdd aer gwael ar ddisgwyliad oes cyfartalog gyfwerth ag oddeutu 2,500 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru, a bod cost y cyflyrau iechyd sy’n gysylltiedig â hynny yn odddeutu £1 biliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd.
Cynllun gweithredu
“Rwy’n galw ar Lafur Cymru i gyflwyno cynllun gweithredu ar gyfer y Bil Aer Glân a phennu dyddiad yn y flwyddyn seneddol gyntaf hon ar gyfer pryd y caiff ei gyflwyno i’r Senedd,” meddai Jane Dodds.
“Mae 148 diwrnod wedi mynd heibio ers etholiad y Senedd, hynny yw 48 diwrnod ar ôl y pwynt diweddaraf y byddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cyflwyno Deddf Aer Glân fel yr argymhellwyd gan Air Cymru Iach a grwpiau amgylcheddol eraill.
Dan Ddeddf Aer Glân Cymru byddai targedau ansawdd aer newydd yn cael eu pennu gan weinidogion ac yn ofynnol ar gyfer adolygiad o gynlluniau i fynd i’r afael â llygredd aer bob pum mlynedd.
Byddai gan awdurdodau lleol rymoedd i ddirwyo gyrwyr sydd â cherbydau sy’n allyrru llygredd y tu allan i ysgolion a lleoliadau gofal iechyd.
Mae clymblaid o elusennau eisoes wedi galw ar y llywodraeth i gyflymu’r broses o gyflwyno deddfwriaeth.
Pobl fregus ac ardaloedd difreintiedig
Yn ôl Jane Dodds mae angen gwarchod y bregus ac ardaloedd difreintiedig.
“Mae ansawdd aer gwael yn cael effaith arbennig o amlwg ar iechyd y rhai mwyaf agored i niwed – fel yr ifanc iawn neu’r hen iawn, neu bobl â chlefydau cardiofasgwlaidd,” meddai.
“Gwyddom hefyd y gall ansawdd aer fod yn llawer gwaeth mewn cymunedau mwy difreintiedig, sydd eisoes yn aml yn wynebu heriau gofal iechyd eraill.
“Gallai’r ddau ffactor hyn roi mwy o straen diangen ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.”
Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.